Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymgyrch newydd yn dangos sut i fwynhau Abertawe yr haf hwn

Mae ymgyrch newydd yn dangos sut gall preswylwyr Abertawe a'i hymwelwyr wneud yn fawr o'r ddinas yn ystod misoedd cynhesach y flwyddyn.

A Summer To Enjoy brochure

A Summer To Enjoy brochure

Gan fod yr haf a gwyliau'r hanner tymor ar ddod, mae Cyngor Abertawe wedi penderfynu lansio'i ymgyrch Joio'r Haf i ddangos syniadau ar gyfer pethau i'w gweld a'u gwneud.

Bydd gwyliau'r hanner tymor rhwng 29 Mai a 2 Mehefin.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Wrth i'r gwyliau ddod, does dim amser gwell i ddarganfod beth sydd ar gael ym Mae Abertawe."

Mae atyniadau awyr agored a rheolir gan y cyngor, fel Lido Blackpill, sydd â phwll padlo a nodweddion dŵr, cwrs golff gwallgof a llyn cychod Parc Singleton a chwrs golff gwallgof arall yng Ngerddi Southend yn boblogaidd yn barod y tymor hwn.

Mae Trên Bach Bae Abertawe hefyd yn cynnig taith olygfaol a chofiadwy ar hyd y prom.

Mae gan gastell hanesyddol Ystumllwynarth olygfeydd godidog, ac mae'n cynnal digwyddiadau difyr ac yn cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr.

Mae'r cyngor hefyd yn rheoli nifer o leoliadau diwylliannol â mynediad am ddim sy'n cynnal digwyddiadau sy'n addas i deuluoedd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mae'r rhain yn cynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian yng nghanol y ddinas, lle mae arddangosfa His Dark Materials wedi'i hymestyn tan fis Gorffennaf.

Bydd Canolfan Dylan Thomas yn dathlu 70 mlynedd ers y perfformiad llawn cyntaf o Under Milk Wood ar lwyfan yr hanner tymor hwn.

Mae Amgueddfa Abertawe gerllaw, a gallwch gael mynediad ati am ddim. Mae gwyliau'r hanner tymor a'r haf hefyd yn amser da i ymweld â llyfrgelloedd y cyngor.

Mae llawer mwy o ffyrdd am ddim a chost isel i fwynhau'r awyr agored yn Abertawe. Mae'r ardal yn gartref i barciau a thraethau o'r radd flaenaf, gan gynnwys tri thraeth â statws y Faner Las.

Nodir digwyddiadau'r haf - ynghyd ag atyniadau'r cyngor - yn y daflen wybodaeth Joio'r Haf, y gellir ei chasglu am ddim yn nifer o leoliadau ar draws y ddinas.

Mae'r haf o adloniant yn y ddinas yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau proffil uchel. Mae'r rhain yn cynnwys Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, Sioe Awyr Cymru, The Hollywood Vampires yn Arena Abertawe, Cyfres Para Treiathlon y Byd ac IRONMAN 70.3 Abertawe, theatr awyr agored yng Nghastell Ystumllwynarth a Madness, Ministry of Sound Classical, Tom Grennan, Sam Ryder a gŵyl ddawns Escape ym Mharc Singleton.

Rhagor: www.croesobaeabertawe.com

Llun: Taflen wybodaeth Joio'r Haf gan Gyngor Abertawe 

                                                                                                      

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Mai 2023