Mae haf o hwyl ar y ffordd i Abertawe
Gall preswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe fwynhau haf o hwyl wrth i atyniadau a busnesau geisio adeiladu ar lwyddiant Pasg prysur.
Mae digwyddiadau mawr ac amrywiaeth o leoliadau poblogaidd ymysg y pethau sydd eisoes yn denu sylw teuluoedd lleol, grwpiau sy'n ymweld ac unigolion.
Maent yn amrywio o gyngherddau poblogaidd ym Mharc Singleton i arddangosfeydd mewn orielau celf, a thraethau a pharciau syfrdanol i leoliadau fel yr LC a Plantasia.
Mae digwyddiadau enwog a fydd yn dychwelyd yr haf hwn yn cynnwys y Sioe Awyr ac IRONMAN 70.3 Abertawe.
Mae'r rheini sy'n cynnig yr hwyl yn cynnwys tîm Joio Bae Abertawe Cyngor Abertawe ac amrywiaeth o sefydliadau a busnesau eraill gan gynnwys tafarndai, bwytai a gwestai.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor,Robert Francis-Davies,"Mae'r Cyngor a nifer eraill yn paratoi i gynnig llawer mwy o hwyl dan do ac yn yr awyr agored i bobl.
"Rwy'n canmol gwaith pawb yn y sector diwylliannol a thwristiaeth sy'n gwneud cymaint i sicrhau bod Abertawe'n lle gwych i fyw ac ymweld ag ef."
Mae lleoliadau a reolir gan y Cyngor yn cynnwys: Canolfan Dylan Thomas, Oriel Gelf Glynn Vivian, Theatr y Grand Abertawe, Neuadd Brangwyn, Amgueddfa Abertawe a llyfrgelloedd.
Mae atyniadau a reolir gan y Cyngor yn cynnwys: Lido Blackpill - ar agor o 4 Mai; Golff Gwallgof yng Ngerddi Southend a Pharc Singleton - ar agor nawr; Castell Ystumllwynarth - ar agor nawr, ac mae'r theatr awyr agored wedi'i chynllunio ar gyfer y lleoliad hefyd; Pedalos Llyn Cychod Singleton - yn gweithredu nawr; Trên Bach y Bae Abertawe - yn gweithredu nawr.
Mae digwyddiadau sydd ar ddod, a gefnogir gan y Cyngor yn cynnwys:
- Enigma Variations, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Neuadd Brangwyn - 12 Ebrill
- Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe - 13 - 17 Mehefin
- Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe - 22 Mehefin
- Sioe Awyr Cymru - 6 - 7 Gorffennaf
- IRONMAN 70.3 Abertawe - 14 Gorffennaf
- James Arthur, Parc Singleton - 18 Gorffennaf
- Classic Ibiza, Parc Singleton - 19 Gorffennaf
- Let's Rock Wales, Parc Singleton - 20 Gorffennaf
- Peter Pan, Theatr Awyr Agored, Castell Ystumllwynarth - 7 Awst
- Romeo and Juliet, Theatr Awyr Agored, Castell Ystumllwynarth - 8 Awst
- 10k Bae Abertawe Admiral - 15 Medi
Llun: Holl gyffro IRONMAN 70.3 Abertawe.