Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwyl yr haf i bawb diolch i'r Cyngor

Bydd teuluoedd ar draws Abertawe'n gallu manteisio ar amrywiaeth o weithgareddau ac atyniadau difyr a gynhelir gan y Cyngor yr haf hwn.

Summer in Swansea

Summer in Swansea

Mae gwyliau haf ysgolion lleol newydd ddechrau, ac mae'r Cyngor eisiau sicrhau bod rhywbeth i bawb.

Mae pethau i'w gwneud yn ystod y seibiant hir yn cynnwys gweithgareddau cost isel ac am ddim, ac ymweliadau â lleoliadau cyffrous.

Gwneir cynnydd o hyd gyda phrosiect amddiffynfeydd môr y cyngor yn y Mwmbwls - ac mae'r cyrchfan boblogaidd i dwristiaid yn barod i groesawu ymwelwyr dros wyliau'r haf.

Gwnaed cynnydd da gyda gwaith yr amddiffynfeydd môr yn ardal Oyster Wharf a gellir cael mynediad at y prom o'r rhan fwyaf o leoedd wrth i'n prif gontractwyr barhau â'r gwaith hanfodol hwn.

Mae'r ffyrdd i mewn i'r Mwmbwls ac allan ohono ar agor o hyd ac mae teithwyr bysus, beicwyr a cherddwyr yn parhau i fwynhau siopau, bariau a chaffis yr ardal - a gall Trên Bach Bae Abertawe eich cludo yno ac yn ôl.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae llawer i'w weld a'i wneud yn Abertawe'r haf hwn. Ni fydd yn rhaid i deuluoedd fynd yn rhy bell er mwyn cael amser o safon."

Mae parciau a thraethau Abertawe a gynhelir gan y Cyngor - y mae gan dri ohonynt statws y Faner Las - yn wych ar gyfer picnics ac anturiaethau.

Wyddech chi? Gellir trosglwyddo tocynnau a brynwyd mewn nifer o feysydd parcio'r blaendraeth o gwmpas ardaloedd y Mwmbwls, Gŵyr ac Abertawe. Mae hyn yn golygu y gallwch barcio yn unrhyw un o'r meysydd parcio perthnasol ar yr un diwrnod gan ddefnyddio'r un tocyn - ar yr amod bod digon o amser ar y tocyn i chi barcio yno. 

Mae atyniadau awyr agored eraill yn cynnwys y pedalos ym Mharc Singleton, Lido Blackpill sydd am ddim i'w ddefnyddio a'r golff gwallgof a ail-baentiwyd yn ddiweddar yng Ngerddi Southend yn y Mwmbwls a Pharc Singleton.

Gall y rheini sy'n mwynhau theatr fyw fwynhau sioeau awyr agored yng Nghastell Ystumllwynarth, sydd hefyd yn bwriadu cynnal Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau ar 28 Awst.

Bydd lleoliadau diwylliannol a llyfrgelloedd y Cyngor yn cynnal nifer o ddigwyddiadau am ddim. Maent yn cynnwys Canolfan Dylan Thomas, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Gorffenaf 2024