Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau ar gael ar gyfer mentrau bwyd yn ystod gwyliau ysgol yr haf

Mae cyllid ar gael ar gyfer sefydliadau sy'n cefnogi teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd gyda'r costau ychwanegol yn ystod gwyliau ysgol yr haf pan nad oes ganddynt fynediad at brydau ysgol am ddim.

school meals generic

school meals generic

Gall elusennau, clybiau, sefydliadau gwirfoddol a chyrff cyhoeddus wneud cais am grantiau o hyd at £2,500 ar gyfer cynlluniau sy'n cefnogi teuluoedd â phlant oedran ysgol.

Gellir defnyddio'r grantiau hyn i ddarparu pecynnau bwyd y gellir eu cymryd oddi ar y safle, talebau ar gyfer archfarchnadoedd lleol neu er mwyn darparu bwyd a phrydau o safon ar y safle.

Gellir gwneud ceisiadau ar-lein drwy fynd i https://www.abertawe.gov.uk/CronfaBwydyGwyliauHafGaisArlein y dyddiad cau yw dydd Mercher, 26 Mehefin.

Mae croeso i unrhyw grŵp sy'n dymuno trafod cais cyn ei gyflwyno (gan gynnwys p'un ai i wneud cais am fwy o arian), gysylltu â'r Tîm Datblygu Trechu Tlodi drwy e-bostio:tacklingpoverty@abertawe.gov.uk