Toglo gwelededd dewislen symudol

Mwy na £100,000 wedi'i ddyfarnu i brosiectau bwyd gwyliau'r haf

Mae mwy na £100,000 wedi cael ei ddyfarnu hyd yn hyn i brosiectau sy'n darparu bwyd i blant a phobl ifanc yn ystod gwyliau'r ysgol yr haf hwn.

Cooking - generic image from Canva

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Cyngor Abertawe gwerth £250,000 ychwanegol o gyllid i helpu i fwydo plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn newynog yn ystod y seibiant chwe wythnos.

Mae tri deg un o sefydliadau hyd yma wedi sicrhau rhan o'r arian, a fydd yn darparu rhyw 55,000 o brydau.

Mewn ymateb i bandemig COVID-19, cyflwynodd Llywodraeth Cymru daliadau dros dro yn ystod y gwyliau ysgol i deuluoedd a oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim, ond maent bellach wedi dod i ben.

I helpu i gefnogi teuluoedd, mae'r cyngor yn ariannu prosiectau sy'n cynnig clybiau brecwast a chinio, yn ogystal â mentrau bwyd eraill fel prydau bwyd, bagiau bwyd a thalebau.

Gall banciau bwyd presennol hefyd gael mynediad at y gefnogaeth hon i atgyfnerthu eu cyflenwadau.

Mae'r cyngor hefyd yn cefnogi teuluoedd i wneud yn fawr o wyliau ysgol yr haf gyda theithiau am ddim ar fysus ar draws Abertawe bob dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun, yn ogystal â rhaglen enfawr o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim a chymorthdaledig.

Mae cannoedd o weithgareddau a digwyddiadau cymorthdaledig ac am ddim wedi'u rhestru ar wefan y cyngor yn https://www.abertawe.gov.uk/gweithgareddaugwyliau

Mae llawer o wybodaeth ar gael am gymorth pellach gan gynnwys bwyd yn: https://www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw

Close Dewis iaith