Mynediad at fwyd am ddim yn ystod gwyliau'r haf i filoedd o blant
Mae gan filoedd o blant a phobl ifanc fynediad at fwyd am ddim yn ystod gwyliau haf ysgolion eleni diolch i gyllid gan Gyngor Abertawe.


Mae 48 o grwpiau ac elusennau ar draws y ddinas wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus am bron i £150,000 o grantiau bwyd fel rhan o gymorth y Cyngor i deuluoedd yn ystod gwyliau ysgol.
Mae mentrau eraill yn cynnwys teithio am ddim ar fysus i bawb yn Abertawe bob dydd Gwener, ddydd Sadwrn, ddydd Sul a dydd Llun gan rhwng 26 Mehefin a 26 Awst, yn ogystal â channoedd o weithgareddau am ddim a rhai â chymhorthdal yn ystod yr haf diolch i fenter COAST y Cyngor a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Dyma'r ail flwyddyn y mae'r Cyngor wedi cynnig cyllid i amrywiaeth eang o grwpiau ac elusennau ddarparu bwyd yn ystod gwyliau'r haf a chaiff ei gynnig mewn ffyrdd gwahanol gyda rhai'n darparu pecynnau bwyd, eraill yn darparu prydiau parod a rhai'n cynnig talebau bwyd.