Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau i helpu busnesau yn Abertawe i wneud cais am gontractau mawr

Mae grantiau o hyd at £1,000 bellach ar gael i helpu busnesau lleol yn Abertawe i wneud cais am gontractau sector cyhoeddus neu ar raddfa fawr.

View of Swansea

View of Swansea

Bydd ymgeiswyr busnes llwyddiannus yn gallu defnyddio'r arian i helpu i gael mynediad at hyfforddiant ar gyfer yr achrediad sydd ei angen i wneud cais am waith o'r math hwn.

Mae'r grant datblygu cyflenwyr a gynhelir gan Gyngor Abertawe ac a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gofyn i ymgeiswyr ddarparu 50% o'r costau mewn arian cyfatebol.

Mae'n rhaid i bob ymgeisydd hefyd ddarparu crynodeb busnes a rhagolwg llif arian 12 mis.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Ar ôl siarad â'n busnesau, rydym yn gwybod y gall yr achrediad sydd ei angen fod yn rhwystr ar brydiau i gwmnïau a masnachwyr lleol sydd eisiau gwneud cais am gontractau sector cyhoeddus ac ar raddfa fawr pan ddaw'r cyfleoedd hyn ar gael.

"Dyma pam rydym bellach wedi rhoi'r grant datblygu cyflenwyr ar waith, oherwydd rydym am wneud y broses o wneud cais am y mathau hyn o gontractau mor hygyrch â phosib i fusnesau yn Abertawe.

"Mae'r grant hwn yn un o nifer a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a sefydlwyd fel y gall busnesau lleol o bob maint elwa ohoni yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf."

E-bostiwch GrantDatblygu@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen gais.

Mae grantiau eraill sydd bellach ar gael yn cynnwys grant cyn cychwyn, grant datblygu gwefannau, grant twf busnes a grant lleihau carbon.

Gofynnir i fusnesau sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth neu wneud cais am unrhyw un o'r grantiau hyn fynd i www.abertawe.gov.uk/ariannubusnesau am ragor o wybodaeth.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Mai 2023