Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau syrffio a natur yn elwa o fuddsoddiad gwledig

Mae menter therapi syrffio, cynllun adfer bywyd gwyllt a chreadigaeth parc natur ymhlith y prosiectau gwledig diweddaraf yn Abertawe i elwa o fuddsoddiad.

Surf Therapy

Surf Therapy

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi dyfarnu cyllid sy'n werth cyfanswm o £178,000 i 14 cynllun fel rhan o ail rownd y prosiect angori gwledig cyffredinol sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae hyn yn dilyn cyllid sydd wedi'i ddyfarnu'n flaenorol i brosiectau eraill fel rhan o'r rownd ariannu gyntaf.

Mae cynlluniau sydd wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid prosiect rownd dau yn cynnwys:

  • Prosiect Surf to Success a gynhelir gan Surf Therapy, sydd wedi'i leoli yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr, a fydd yn gweithio gyda phobl rhwng 18 a 25 oed sydd yn y system cyfiawnder troseddol. Bydd y prosiect yn eu galluogi i gymryd rhan mewn sesiynau therapi syrffio a derbyn yr wybodaeth a'r sgiliau ymarferol y mae eu hangen i ddod yn fentoriaid a hyfforddwyr syrffio ac i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol er mwyn ennill swydd yn y dyfodol.
  •  Prosiect dan arweiniad CSA Cae Felin, sydd wedi'i leoli ar safle gardd gymunedol Cae Felin, er mwyn adfer bywyd gwyllt a meithrin ysbryd cymuned trwy gysylltu pobl â bywyd gwyllt trwy wirfoddoli mewn natur.
  • Prosiect coetir â gwirfoddolwyr Graig y Coed dan arweiniad Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf, sy'n trawsnewid safle coetir adfeiliedig yn barc natur.

Mae'r holl brosiectau sy'n cyflwyno ceisiadau am arian yn cael eu hasesu gan grŵp ymgynghorol lleol.

Meddai'r Cyng. Andrew Stevens, aelod o'r grŵp ac Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae cymunedau gwledig yn gwneud cyfraniad pwysig i economi a diwylliant ein dinas a sir, a dyma'r rheswm pam mae ariannu prosiectau gwledig yn thema allweddol ar gyfer buddsoddiadau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Abertawe.

"Mae dros £380,000 bellach wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau gwledig yn Abertawe dros y misoedd diwethaf, a bydd llawer mwy oherwydd bod trydedd rownd o geisiadau am arian yn cael ei hasesu.

"Mae cyfuniad y cynlluniau rydym wedi'u cymeradwyo i dderbyn arian yn fuddiol i filoedd o bobl ar draws Abertawe a'r tu hwnt iddi."

Mae Hamish Osborn o Gyfoeth Naturiol Cymru'n cadeirio'r grŵp cynghori gwledig.

Meddai, "O waith effeithlonrwydd ynni, prosiectau bioamrywiaeth a mentrau gwirfoddoli i lwybrau cerdded, rhaglen syrffio a marchnad flodau, bydd y cyllid hwn yn rhoi hwb i amrywiaeth eang o gynlluniau gwledig yn Abertawe.

"Rydym yn edrych ymlaen at gymeradwyo prosiectau gwledig eraill yn Abertawe a fyddant yn elwa o gyllid tebyg dros y misoedd nesaf."

Mae cynlluniau eraill a gymeradwywyd yn ddiweddar yn cynnwys prosiect Lleisiau Cymunedol Gwledig a arweinir gan Gyngor Cymuned Mawr, lle mae astudiaeth dichonoldeb wedi'i chynllunio er mwyn galluogi pentrefi Garnswllt a Chraig-cefn-parc i addasu a datblygu fel cymunedau gweithredol, gwledig rhwng y cenedlaethau.

Gwneir astudiaeth dichonoldeb hefyd i nodi opsiynau a chostau ar gyfer gwaith ailwampio ac ôl-osod effeithlonrwydd ynni yn Neuadd Bentref Llanmadog a Cheriton.

Ar gyfer y Neuadd Les yng Nghasllwchwr, bydd buddsoddiad yn arwain at gyfarpar TG newydd, mesurau effeithlonrwydd ynni newydd a hyfforddiant ar gyfer hyfforddwyr TG gwirfoddol.