Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd: Rhannwch eich barn a'ch syniadau!
Mae gan breswylwyr Abertawe tan ddiwedd y mis i fynegi eu barn fel rhan o arolwg newid yn yr hinsawdd allweddol.
Wrth i Gyngor Abertawe arwain y daith tuag at ddod yn ddinas carbon sero net, mae'n gofyn i ddinasyddion: "Pa gamau gweithredu y dylai eich cyngor rhoi'r flaenoriaeth uchaf iddynt?"
Bydd canlyniadau'r arolwg yn helpu'r cyngor i sicrhau bod Abertawe'n cyflawni sero net erbyn 2050.
Mae'r cyngor eisoes yn gweithio gyda sefydliadau'r ddinas i gyflawni'r targedau a fydd yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng natur.
Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a'r Cynghorydd Hyrwyddo ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd, "Rydym wedi derbyn adborth gwych gan y cyhoedd yn ystod wythnosau cyntaf yr arolwg.
"Rydym yn awyddus i gasglu barn rhagor o bobl felly rydym wedi estyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion i ddiwedd y mis hwn.
"Mae'r arolwg ar gyfer pob preswylydd, o bob oed, a sefydliadau o bob math. Bydd yn ein helpu i flaenoriaethau ein camau gweithredu wrth i ni helpu'r ddinas i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn sy'n diffinio'r oes."