Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb ariannol gwerth £500,000 i fusnesau Abertawe

Mae busnesau ledled Abertawe wedi elwa o arian grant gwerth £500,000 dros y flwyddyn ddiwethaf.

Louise Rengozzi and Jess Hickman

Louise Rengozzi and Jess Hickman

Mae'r grantiau wedi'u dyrannu gan Gyngor Abertawe, diolch i gyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae £500,000 pellach mewn grantiau bellach wedi'u cymeradwyo hefyd, felly bydd hyd yn oed mwy o fusnesau yn Abertawe yn elwa cyn bo hir.

Mae'r grantiau'n amrywio o grantiau cyn dechrau a grantiau datblygu gwefannau i grantiau twf busnes, grantiau datblygu cyflenwyr a grantiau lleihau carbon.

Mae un o'r busnesau sydd wedi elwa o arian grant yn cynnwys Bowla - A Bowl with a Roll. Derbyniodd y busnes sydd wedi'i leoli ym Marchnad Abertawe grant datblygu gwefannau.

Bowla Swansea Market

Mae Imersifi, busnes technoleg a realiti rhithwir, ymysg y busnesau sydd wedi derbyn grant twf. Mae Cwtsh Hostel ar Castle Street yng nghanol y ddinas wedi derbyn grant lleihau carbon.

Imsersifi

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae gan Abertawe gymuned fusnes mor amrywiol a dawnus, a dyna pam y gwnaethom yn siŵr bod cymorth busnes yn thema allweddol fel rhan o'n dyraniad Cronfa Ffyniant Gyffredin gan Lywodraeth y DU.

"Mae ein tîm cymorth busnes wedi gweithio'n galed i brosesu ceisiadau a chael cyllid i ymgeiswyr llwyddiannus cyn gynted â phosib oherwydd rydym yn deall pa mor bwysig yw'r grantiau hyn i helpu ein busnesau gyda'u cynlluniau datblygu.

"Mae busnesau Abertawe'n gwneud cymaint dros gyflogaeth leol, economi'r ddinas a helpu i ddenu buddsoddiad.

"Mae'r grantiau busnes yn un rhan o'n hymrwymiad i helpu busnesau lleol mewn unrhyw ffordd y gallwn."

Solo women's fashion (Mumbles)

Mae busnesau eraill sydd wedi derbyn grantiau twf busnes yn cynnwys Solo, siop ffasiwn ar gyfer merched, a Green's Kitchen and Furniture.

Mae'r asiantaeth farchnata The Cusp ymhlith y busnesau eraill sydd wedi derbyn grant datblygu gwefannau. Mae DUA Cleaning Services ymhlith y rhai sydd wedi derbyn grant cyn dechrau.

Ewch i https://www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes i gael rhagor o wybodaeth am y grantiau.

Close Dewis iaith