Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad sylweddol i ddod â hanes yn fyw yn Abertawe

Mae castell a nifer o neuaddau eglwysi ymysg yr adeileddau hanesyddol yn Abertawe a fydd yn elwa cyn bo hir o hwb ariannol mawr.

Oystermouth Castle in the spring

Oystermouth Castle in the spring

Mae Cyngor Abertawe wedi dyfarnu arian grant gwerth £1.37m i nifer o gynlluniau ac astudiaethau dichonoldeb fel rhan o brosiect angori trawsnewid lleoedd ar draws y sir sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae rhai o'r adeileddau hanesyddol a fydd yn elwa o'r arian yn cynnwys:

  • Castell Ystumllwynarth, lle cynigir ailgynllunio ac adleoli cyfleusterau a mannau presennol. Byddai hyn yn galluogi ehangu siop y castell, gan ganiatáu ar gyfer mwy o ymwelwyr a chreu mwy o le arddangos.
  • Yr Eglwys Undodaidd ar y Stryd Fawr yng nghanol y ddinas, lle byddai astudiaeth dichonoldeb yn ceisio datblygu defnydd cynaliadwy'r adeilad sy'n adlewyrchu anghenion y gymuned gyfagos. Y bwriad yno yw darparu datblygiad cymysg sy'n cynnwys elfennau masnachol a defnydd cymunedol. Mae'r syniadau'n cynnwys caffi menter gymdeithasol, isrannu rhannau o'r neuadd er mwyn cynnal dosbarthiadau a digwyddiadau ac adfer yr ardd gefn er budd y gymuned.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae gennym hanes balch fel cyngor am gadw a dathlu hanes cyfoethog Abertawe, ac mae'r enghreifftiau diweddar yn cynnwys adfer safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa er mwyn creu distyllfa weithredol a chanolfan ymwelwyr ar gyfer Penderyn.

"Er hynny, mae llawer o adeiladau ac adeileddau eraill drwy gydol ardal Abertawe y mae angen cynnal gwaith cadwraeth ar eu cyfer. Dyma pam y gwnaethom yn siŵr bod cyllid grant o'r math hwn ar gael fel rhan o'n dyraniad Cronfa Ffyniant Gyffredin gan Lywodraeth y DU.

"Mae'r holl gynlluniau a fydd yn elwa o'r arian yn deilwng iawn o gyllid a byddant yn cadw neu'n adfywio tirnodau hanesyddol arwyddocaol yn ogystal â chreu mannau ar gyfer busnesau, defnydd cymunedol a mwynhad a chyfleoedd addysg i bobl leol ac ymwelwyr ag Abertawe am flynyddoedd lawer i ddod."

Ymhlith yr adeiladau hanesyddol eraill a fydd yn elwa o'r cyllid mae Eglwys y Bedyddwyr York Place yng nghanol y ddinas, lle bydd gwaith adfer ac ailgyflunio'n digwydd. Bydd y cynllun yn cynnwys cael gwared ar seddi yn y capel presennol i greu lle cymunedol hyblyg ar gyfer digwyddiadau, cyngherddau, arddangosfeydd, prydau bwyd, cefnogaeth gymunedol, partïon a gweithgareddau eraill. Gallai'r llawr gwaelod ddarparu seddi ar gyfer hyd at 200 o bobl mewn rhesi, gyda seddi sefydlog pellach i 200 o bobl eraill yn yr oriel i fyny'r grisiau.

Bydd cyllid grant hefyd yn cael ei ddyrannu er mwyn ymgymryd â gwaith dylunio dichonoldeb ac adfer ar Dŷ Injan Musgrave yng Ngwaith Copr yr Hafod-Morfa. Y bwriad yw adfer yr injan fel y gellir ei defnyddio unwaith eto fel darn gweithredol o hanes, gan helpu i gefnogi adrodd straeon Cyfeillion Gwaith Copr yr Hafod-Morfa.

Bydd astudiaeth dichonoldeb hefyd yn cael ei chynnal ar adfer a datblygu basn a thwnnel camlas Smith yn y dyfodol, a fu unwaith yn bwydo ffwrneisi ar safle Gwaith Copr y Garreg Wen. Gallai'r cynllun hwn ddatgloi cymorth pellach i adfer adeileddau hanesyddol eraill ar y safle, sy'n dyddio'n ôl i 1737.

Mae'r rhain yn cynnwys ardal wal y doc a'r cei sydd â'r potensial i ddenu gweithgareddau hamdden cychod a dŵr yn y dyfodol

Close Dewis iaith