Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gorymdaith i deithio trwy ganol y ddinas wrth i Pride Abertawe ddychwelyd

Bydd gorymdaith liwgar gydag awyrgylch carnifal yn teithio trwy ganol y ddinas ddydd Sadwrn wrth i ŵyl flynyddol Pride Abertawe ddychwelyd.

Pride Parade

Pride Parade

Eleni, cynhelir yr ŵyl am ddim, sy'n dechrau am 12.00pm ac yn dod i ben am 7pm, yn y maes parcio a'r tir o flaen Neuadd y Ddinas a Neuadd Brangwyn gerllaw.

Mae'r ŵyl wedi cael ei symud gan nad yw'r lleoliad traddodiadol ym Mharc yr Amgueddfa wedi adfer ar ôl wythnosau o law trwm.

Cynhelir gorymdaith cyn yr ŵyl, a fydd yn dechrau o Wind Street am 11am ac yna'n teithio trwy ganol y ddinas i Neuadd y Ddinas drwy Caer Street, St Marys Square, Stryd Rhydychen, Dillwyn Street, St Helens Road a St Helens Crescent.

Caiff nifer o ffyrdd eu cau yn eu tro a chynghorir modurwyr i ddefnyddio llwybrau amgen os yn bosib yn ystod diwedd y bore.

Er bod y lleoliad wedi newid bydd y digwyddiad llawn hwyl yr un peth o hyd gyda cherddoriaeth fyw, bwyd, diod, stondinau masnach a pharthau cymunedol.

Cynhelir digwyddiad Pride bach o hyd ddydd Sul 30 Ebrill yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Ceir rhestr lawn o berfformwyr, gweithgareddau a gwybodaeth arall yn www.swanseapride.co.uk

Close Dewis iaith