Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfrgelloedd yn chwarae eu rhan fel Lleoedd Llesol Abertawe

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus Abertawe wedi bod yn chwarae eu rhan i sicrhau bod lleoedd cynnes a chroesawgar i bobl fynd iddynt y gaeaf hwn.

Swansea Space - Oystermouth Library

Swansea Space - Oystermouth Library

Gyda 17 o ganghennau ar draws y ddinas, roedd gwasanaeth llyfrgelloedd y cyngor ymysg y cyntaf i restru ei gynnig ar gyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe.

Mae'r cyfeiriadur yn amlygu lleoedd y gall pobl fynd iddynt am ddim ac mae'n cynnwys dros 80 o gofnodion.

Mae rhai yn cynnig gweithgareddau, mae rhai yn ffordd wych i bobl sydd efallai'n teimlo'n unig i gwrdd ag eraill, mae rhai yn cynnig lle cynnes i ddarllen llyfr, cylchgrawn neu bori'r we neu ardaloedd tawel, cynnes lle gall pobl weithio ynddynt.

Gellir dod o hyd i'r cyfeiriadur yma: https://www.abertawe.gov.uk/LleoeddLlesolAbertawe

Ymwelodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, â Llyfrgell Ystumllwynarth yr wythnos hon i ddarganfod pa mor werthfawr a fu'r gwasanaeth.

Meddai'r Cynghorydd Gwilliam, "Pan aethom ati i sefydlu cyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe ar ddechrau'r gaeaf, roeddem am dynnu sylw at y mannau cynnes y gallai pobl fynd iddynt, ond wrth siarad â'r rheini sy'n darparu'r gwasanaethau, mae'n amlwg bod y gwasanaeth wedi bod o fudd gwirioneddol i'r rheini sy'n teimlo'n unig gan ei fod wedi eu cyfeirio at fannau lle mae croeso iddynt."