Dyfarniad cyllid pwysig ar gyfer prosiect capel yn Nhreforys
Bydd gwaith ailgyflunio mawr yn digwydd cyn bo hir i addasu llawr gwaelod isaf capel hanesyddol y Tabernacl yn Nhreforys yn hwb cadernid cymunedol bywiog.
Mae Sefydliad Ymgorfforedig Elusennol 'Tabernacle, Morriston Congregation' wedi gwneud cais llwyddiannus i Gyngor Abertawe am £450,000 drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae Capel y Tabernacl Treforys, sy'n dyddio nôl i 1872, yn un o dri adeilad rhestredig Gradd 1 yn unig yn Abertawe, ac eithrio cestyll.
Bydd y gwaith ailgyflunio'n arwain at gyfleusterau hygyrch, hyblyg, o safon ar gyfer y gymuned. Mae hyn yn golygu y byddai pobl â phroblemau symudedd yn gallu cael mynediad i'r ystafelloedd gwahanol ar gyfer yr holl weithgareddau.
Bydd y cynllun newydd hefyd yn galluogi pedwar llogwr neu fwy i logi'r lle ar yr un pryd, gan helpu i gynyddu'r potensial am refeniw. Byddai hyn wedyn yn creu model cynaliadwy ar gyfer gweithredu'r adeilad yn y blynyddoedd i ddod ac yn diogelu'r capel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Hyd yn hyn, mae cyllid ar gyfer y prosiect wedi'i sicrhau hefyd o Raglen Cyfleusterau Cymunedol a Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU a Chronfa Ymddiriedolaeth Deddf yr Eglwys yng Nghymru.
Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae Capel y Tabernacl Treforys wedi bod wrth wraidd bywyd yn Nhreforys ers blynyddoedd lawer, ond bydd y prosiect hwn yn sicrhau y bydd yn gyfleuster cymunedol gwell byth yn y dyfodol.
"Yn ogystal â gwelliannau mawr i sicrhau bod yr adeilad yn hygyrch i bawb, bydd y prosiect hwn hefyd yn golygu y bydd modd sicrhau bod rhagor o weithgareddau a chyfleoedd gwirfoddoli ar gael yn y Tabernacl.
"Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn helpu i fynd i'r afael ag unigedd ac unigrwydd yn y gymuned, wrth roi'r potensial i bobl o bob oed ddatblygu eu sgiliau.
"Mae'r prosiect hwn, a arweinir ac a ddyluniwyd gan bobl leol, yn un o lawer y bydd y cyngor yn clustnodi cyllid iddynt drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU wrth i ni geisio sicrhau bod cynifer o gymunedau a phreswylwyr Abertawe â phosib yn elwa ohonynt.
"Mae'r prosiect yn un o amrywiaeth o fuddsoddiadau drwy Gyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yng nghanol tref Treforys.
Meddai Rhian Williams, Cadeirydd elusen 'Tabernacle Morriston Congregation', "Mae hyn yn newyddion gwych a fydd yn sicrhau dyfodol y capel, am ei rôl yn y gymuned leol wrth ddenu pobl i'r adeilad rhyfeddol hwn. Mae'r capel yn aml wedi cael ei alw'n 'eglwys gadeiriol anghydffurfiaeth'. Rydym ni fel cynulleidfa'n gwerthfawrogi'r holl ymdrechon a wnaed ar ein rhan i sicrhau'r grantiau hyn, sy'n diogelu'r adeilad fel man addoli ar gyfer ein cynulleidfa a hefyd yn dod a budd i'r gymuned ehangach."
Mae'r Tabernacl wedi ymddangos yn aml ar raglenni teledu fel Songs of Praise dros y blynyddoedd.
Mae aelodau'r teulu brenhinol wedi ymweld ag ef yn ogystal â chenedlaethau o bregethwyr a chantorion o fri ac organyddion cyngerdd blaenllaw.