Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwerth £620,000 o gyllid yn helpu sefydliadau Abertawe i drechu tlodi

Mae gwerth dros £620,000 wedi'i ddyfarnu gan Gyngor Abertawe dros y flwyddyn ddiwethaf i sefydliadau ledled y ddinas sydd wedi bod yn helpu i drechu tlodi a galluogi cymunedau drwy gydol yr argyfwng costau byw.

View of Swansea

View of Swansea

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae sefydliadau wedi elwa gan gynnwys y rheini sy'n darparu cymorth tlodi'r mislif i fenywod a merched yn Abertawe.

Hefyd, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, cafwyd 150 o geisiadau llwyddiannus am gymorth i aelwydydd a chynlluniau grant cymorth bwyd uniongyrchol i sefydliadau sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd.

Rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, mae sefydliadau hefyd wedi elwa o gynlluniau eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys grantiau Canolfannau Clyd sydd wedi helpu i ariannu darparu Lleoedd Llesol Abertawe dros y gaeaf sy'n rhoi croeso cynnes i breswylwyr. Cefnogwyd dros 70 o geisiadau gan y cyngor fel rhan o'r cynllun hwn.

Roedd y cyngor hefyd wedi dyfarnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu i sefydlu partneriaeth bwyd cynaliadwy yn Abertawe o'r enw Bwyd Abertawe i ddatblygu economi bwyd lleol fwy cynaliadwy.

Mae prosiectau Men's Shed ar draws Abertawe sy'n darparu lleoedd i ddynion gysylltu, siarad a chreu ymysg y cynlluniau eraill sydd wedi elwa. Dros y flwyddyn ddiwethaf, dyfarnwyd cyllid gan Gyngor Abertawe i wyth Men's Shed llwyddiannus fel rhan o'r prosiect hwnnw.

Meddai'r Cyng. Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, "Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd grantiau fel hyn, o gofio'r argyfwng costau byw cyfredol.

"Felly fel cyngor, rydym wedi bod yn gwneud popeth y gallwn i annog ceisiadau gan sefydliadau a all elwa a gweinyddu taliadau i ymgeiswyr llwyddiannus cyn gynted â phosib.

"Rhwng y chwe chynllun grant hyn, cymeradwywyd dros 260 o geisiadau, a arweiniodd at y cyngor yn dyfarnu mwy na £620,000 yn y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae hyn yn bwysig gan ei fod wedi helpu i roi hwb i brosiectau sy'n ceisio mynd i'r afael â thlodi bwyd, tlodi'r mislif, tlodi tanwydd, gan fod o fudd i bobl o bob oed ar draws Abertawe.

"Mae'r cynlluniau grant hyn a'r sefydliadau sydd wedi elwa yn enghraifft o'r cynlluniau a'r sefydliadau niferus y mae cyllid a ddyfernir gan y cyngor yn helpu i'w hybu bob blwyddyn mewn ystod eang o feysydd.

"Mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at y taliadau cymorth tanwydd a wnaed i filoedd o breswylwyr dros y gaeaf."

Rhwng mis Medi 2022 a diwedd Chwefror eleni, rhoddodd y cyngor daliadau cymorth tanwydd a oedd yn werth cyfanswm o bron £5.5m i bron 27,400 o breswylwyr fel rhan o gynllun a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cyngor yn cyhoeddi gwybodaeth am grantiau sy'n gysylltiedig â threchu tlodi a galluogi cymunedau ar gyfer y flwyddyn sy'n dod cyn gynted ag y cwblheir manylion.

 

Close Dewis iaith