Ysgol hapus yn darparu profiadau cyfoethog a chofiadwy i ddisgyblion
Mae ysgol gynradd Gymraeg a symudodd i ysgol newydd sbon gwerth £9.9m dair blynedd yn ôl yn ysgol hapus a chroesawgar ac mae'r Pennaeth a'r staff yn darparu profiadau dysgu cyfoethog a chofiadwy i ddisgyblion, yn ôl arolygwyr Estyn.
Ymwelodd Estyn ag Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan yn gynharach eleni ac maent bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad.
Dywedwyd bod Tan-y-lan yn rhan graidd o'r gymuned leol lle mae pwyslais cryf ar bwysigrwydd siarad Cymraeg ac ymfalchïo yn niwylliant Cymru.
Yn ôl yr adroddiad, "Mae'n gymuned gynhwysol a gofalgar sy'n hyrwyddo gwerthoedd cadarn fel cwrteisi, parch, ac ymddygiad da yn llwyddiannus.
Mae perthynas waith annwyl a chynnes yn bodoli rhwng y staff a'r disgyblion ac anogir pob un i wneud eu gorau ymhob agwedd o'u gwaith.
"Mae staff yn adnabod anghenion disgyblion, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn dda ac maent yn diwallu'n llwyddiannus ar eu cyfer. O ganlyniad, mae'r rhan fwyaf yn gwneud cynnydd cadarn o'u mannau cychwyn ym mhob agwedd o'u dysgu.
"Mae lles ac agweddau disgyblion tuag at eu dysgu yn gryfder amlwg yn yr ysgol. Mae'r cwricwlwm yn gyfoes ac yn cynnig ystod eang a chyffrous o brofiadau buddiol ac ysgogol i'r holl ddisgyblion."
Mae'r adroddiad yn ychwanegu bod gan y Pennaeth, Berian Jones, ac arweinwyr eraill weledigaeth glir ar gyfer yr ysgol sy'n seiliedig ar bwysigrwydd cydweithio fel cymuned i greu amgylchedd ddysgu hapus, diogel a chefnogol i ddisgyblion.
Meddai Mr Jones, "Dylai pawb sy'n gysylltiedig â'n hysgol fod yn falch iawn o'r adroddiad arolygu hwn, a hoffwn ddiolch i'n holl staff, ein disgyblion a'u teuluoedd, ein llywodraethwyr a'r gymuned ehangach am eu cefnogaeth.
"Rwy'n arbennig o falch bod Estyn wedi cydnabod y perthnasoedd hyfryd o fewn yr ysgol a'r gofal a'r parch rydym yn dangos i'n gilydd. Gofynnwyd i ni baratoi astudiaeth achos ar y ffordd rydym yn gweithio er mwyn cyflawni hyn a chaiff ei rhannu ag ysgolion ledled Cymru."