Toglo gwelededd dewislen symudol

Pontynau newydd yn yr arfaeth i wella coridor afon Tawe

Bwriedir gosod dau bontŵn newydd i hybu teithio i fyny ac i lawr afon Tawe'r ddinas.

River Tawe still

River Tawe still

Byddai un pontŵn yn cael ei leoli'n agos i waith Copr yr Hafod-Morfa, a'r llall o fewn pellter cerdded byr i'r Strand.

Mae'r pontynau newydd yn rhan o brosiect gwella Cwm Tawe Isaf sy'n cael ei arwain gan Gyngor Abertawe.

Mae gwelliannau i'r Strand hefyd yn rhan o'r prosiect, a fydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU fel rhan o'i rhaglen Codi'r Gwastad.

Bydd nodweddion eraill y prosiect £28.7m yn cynnwys gwelliannau i Amgueddfa Abertawe a gwaith trawsnewid pellach yn y gwaith copr.

Byddai'r gwaith trawsnewid hwn yn dilyn y gwaith sylweddol diweddar sydd eisoes wedi digwydd ar safle'r gwaith copr gyda chefnogaeth werthfawr partneriaid fel Cyfeillion Gwaith Copr yr Hafod Morfa, Prifysgol Abertawe, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, y contractwyr John Weaver o Abertawe a Distyllfa Penderyn.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Roedd afon Tawe yn ganolog i fywyd Abertawe am flynyddoedd lawer, ac mae cyllid Llywodraeth y DU rydym bellach wedi gwneud cais llwyddiannus amdano yn golygu bod cyfle i roi bywyd newydd i goridor yr afon er budd pobl leol ac ymwelwyr â'r ddinas.

"Byddai'r pontynau newydd ar yr afon, a fydd yn ategu'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud eisoes gan Gyfeillion Gwaith Copr yr Hafod-Morfa ac afondeithiau'r Copper Jack, yn helpu i ddod â mwy fyth o bobl i atyniadau fel y gwaith copr - lle mae Penderyn newydd agor distyllfa weithredol a chanolfan i ymwelwyr - wrth greu rhagor o gyfleoedd hefyd am chwaraeon dŵr.

"Bydd y pontynau'n ffurfio rhan o brosiect cyffredinol a fydd yn dathlu hanes cyfoethog Abertawe, yn creu swyddi i bobl leol ac yn agor lleoedd newydd arloesol i fusnesau lleol."

River Tawe pontoon CGI

Mae nodweddion eraill prosiect gwella Cwm Tawe Isaf yn cynnwys ailddefnyddio bwâu'r rheilffordd Fictoraidd ar y Strand. Byddai podiau manwerthu a gwell goleuadau hefyd yn cael eu gosod yn nhwneli'r Strand a chaiff lifft ei gosod rhwng y Strand a'r Stryd Fawr.

Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, amcangyfrifir y bydd y prosiect yn werth £5.7m y flwyddyn i economi Abertawe.

Byddai sawl adeilad rhestredig yn y gwaith copr yn cael eu gwarchod hefyd a'u rhyddhau at ddefnydd busnes fel bwytai a marchnadle.

Bwriedir codi estyniad newydd yn Amgueddfa Abertawe hefyd a fydd yn creu lle ychwanegol ar gyfer arddangosfeydd ac orielau yn ogystal ag ardaloedd cadwraeth a storio newydd, a chaffi newydd.