Athrawon cyfnewid yn cael eu croesawu i Abertawe
Mae athrawon o Wlad Pwyl wedi bod yn ymweld ag Abertawe'r wythnos hon fel rhan o brosiect lle mae ysgolion ac athrawon o bob cwr o'r byd yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn dysgu gan ei gilydd, rhannu syniadau a gwneud ffrindiau newydd gyda phobl o ddiwylliannau eraill.
Mae Ysgolion Cynradd Sgeti a Phenyrheol wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun Cysylltiadau Rhyngwladol byd-eang sydd wedi'u helpu i gysylltu ag athrawon ac ysgolion yng Ngwlad Pwyl a Thwrci.
Yr wythnos hon bydd y gwesteion o Krakow yn ymuno â disgyblion ar ymweliadau â Choed Penllergaer a'r Mwmbwls ac i gael gwersi syrffio yn Caswell.
Maent hefyd yn mynd i ganol y ddinas, y farchnad dan do, Arddangosfa Dylan Thomas ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Cyfarfu'r Arglwydd Faeres, y Cynghorydd Mary Jones â'r gwesteion yn Neuadd Siôr i'w croesawu i Abertawe, i ddiolch iddynt am eu gwaith ac i ddarganfod sut roeddent yn mwynhau eu hymweliad.