Gwedudalen i ddangos cyfleoedd gwaith ar gyfer busnesau
Mae gwedudalen newydd bellach ar gael i gyfeirio busnesau Abertawe at gyfleoedd gwaith i'r cyngor.
Mae'r wedudalen www.abertawe.gov.uk/cyfleoeddtendro yn cael ei diweddaru gan y cyngor i ddangos y gwaith presennol y gall busnesau gyflwyno cais amdano a'r dyddiadau cau ar gyfer cynigion.
Mae contractau sydd ar gael ar gyfer cynigion yn cynnwys gosod lloriau, ailweirio a gwaith tynnu inswleiddio waliau ceudod.
Mae lansiad y wedudalen yn dilyn argaeledd grantiau o hyd at £1,000 i helpu busnesau lleol Abertawe i gyflwyno cynigion ar gyfer contractau'r sector cyhoeddus neu gontractau ar raddfa fwy.
Bydd ymgeiswyr busnes llwyddiannus yn gallu defnyddio'r arian i helpu i gael mynediad at hyfforddiant ar gyfer yr achrediad sydd ei angen i wneud cais am waith o'r math hwn.
Mae'r grant datblygu cyflenwyr a gynhelir gan Gyngor Abertawe ac a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gofyn i ymgeiswyr ddarparu 50% o'r costau mewn arian cyfatebol.
Mae'n rhaid i bob ymgeisydd hefyd ddarparu crynodeb busnes a rhagolwg llif arian 12 mis.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym am wneud cyfleoedd i wneud cynigion ar gyfer gwaith y cyngor a chontractau mor weladwy a mor hawdd â phosib ar gyfer busnesau lleol.
"Bydd y wefan newydd a grëwyd yn adnodd da i fusnesau ei gwirio o bryd i'w gilydd oherwydd y bydd yn cael ei diweddaru, a bydd cyfleoedd cyflwyno cynigion hefyd yn cael eu cynnwys ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y cyngor, gan gynnwys LinkedIn.
"Rydym hefyd yn cydnabod y gall y broses o gyflwyno cynigion weithiau fod yn her i fusnesau llai, felly mae'r grant datblygu cyflenwyr ar waith i helpu a byddem yn annog ceisiadau gan unrhyw fusnesau sy'n meddwl y gallant elwa."
E-bostiwch GrantDatblygu@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth am grantiau datblygu cyflenwyr neu i ofyn am ffurflen gais.
Mae hwn yn un o amrywiaeth o gynlluniau a grantiau sydd ar waith i gefnogi busnesau o bob math yn Abertawe.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes am ragor o wybodaeth.