Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyrtiau tenis mewn parciau lleol yn cael eu hadnewyddu

​​​​​​​Mae Cyngor Abertawe a Lawn TennisAssociation(LTA) wedi cyhoeddi partneriaeth i ailwampio a buddsoddi mewn nifer o gyrtiau tenis mewn parciau cyhoeddus.

Cwmdonkin Park Tennis Courts

Ar y cyfan, bydd pedwar lleoliad tennis mewn parciau, sy'n cynnwys 11 o gyrtiau, yn cael eu hadnewyddu gyda buddsoddiad o £120,797.90, a fydd yn helpu i sicrhau bod cyfleusterau o safon ar gael i'r gymuned leol am genedlaethau i ddod. 

Mae'r lleoliadau a fydd yn cael eu hailwampio yn cynnwys Coed Bach (Pontarddulais), Cwmdoncyn (Uplands), Parc Victoria (San Helen) a Choed Gwilym (Clydach).

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU ac LTA Tennis Foundation fel rhan o fuddsoddiad cenedlaethol gwerth £30 miliwn, a ddarperir gan LTA, i ailwampio cyrtiau tenis cyhoeddus ar draws Prydain Fawr a gwneud y gamp yn fwy hygyrch i lawer mwy o bobl.

Mae dros 1,500 o gyrtiau wedi'u cwblhau fel rhan o'r prosiect hyd yn hyn, gyda chyrtiau presennol sydd mewn cyflwr gwael neu nad oes modd eu defnyddio yn cael eu hadnewyddu er budd cymunedau ar draws y wlad.

O ganlyniad mae gwaith adnewyddu'n cael ei wneud er mwyn cynnig gwell mynediad i'r cyrtiau, gyda thechnoleg mynediad drwy giât newydd a systemau archebu sy'n ei gwneud hi'n haws i ddod o hyd i gwrt, archebu lle a'i ddefnyddio.

Mae'r cyrtiau a ailwampiwyd yn Abertawe yn rhoi hwb pellach i'r profiad hamdden awyr agored, a byddant yn ategu'r buddsoddiad parhaus gwerth miliynau o bunnoedd ar draws y ddinas i wella mannau cyhoeddus fel lleoedd chwarae i blant a chyfleusterau sglefrio a BMX newydd.

Bydd y cyrtiau newydd yn darparu mwy o gyfleoedd i blant ac oedolion fod yn heini, ac yn cyflwyno buddion iechyd a lles.

Mae'r LTA yn dweud bod cyfleusterau hygyrch mewn parciau yn benodol o bwysig ar gyfer gwneud y gamp yn fwy hygyrch i bobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, a merched a menywod.

Ochr yn ochr â'r buddsoddiad yn Abertawe, bydd y Cyngor a Tennis Wales in the Park - fel gweithredwyr y safle - hefyd yn gweithio gydag LTA i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws y parciau.

Bydd hyn yn cynnwys sesiynau tenis wythnosol a drefnwyd, am ddim, ar gyfer pobl o bob oedran, lefel chwarae a phrofiad, lle darperir y cyfarpar. Ni fydd angen i bobl ddod o hyd i rywun i chwarae gyda nhw na defnyddio'u raced eu hunain. Bydd cynghreiriau tenis lleol yn darparu cyfleoedd cyfeillgar i fod yn heini.

Bydd yr holl gyrtiau a sesiynau ar bob safle ar gael i'w harchebu ar-lein drwy wefan LTA.

Mae gwaith newydd ddechrau yng Nghwmdoncyn, a disgwylir i'r pedwar safle gael eu cwblhau'r gwanwyn hwn.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym yn croesawu'r arian grant hwn a diolchwn i Tennis Wales a'r LTA am eu cefnogaeth.

"Mae Abertawe'n ddinas o chwaraeon a bydd y cyfleusterau newydd yn golygu bod cyrtiau gwell ar gael i'r rheini sydd eisoes yn dwlu ar chwarae tenis, neu'r rheini sydd am roi cynnig arno.

"Rydym wedi siarad â rhanddeiliaid allweddol, cynrychiolwyr lleol a chynghorau eraill sydd wedi mabwysiadu'r system. Bydd y ffioedd cymharol isel a delir i ddefnyddio'r cyrtiau gwych hyn o safon uchel - sy'n cyd-fynd â ffioedd mewn cyfleusterau tebyg ar draws Cymru - yn ein helpu i gynnal a chadw'r cyrtiau a buddsoddi ynddynt yn y tymor hir, ar adeg lle mae cyllidebau'r Cyngor dan bwysau.

"Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen gwaith gwella i ddefnyddwyr y parciau, gan na fydd modd iddynt ddefnyddio'u cyrtiau lleol am gyfnod byr i hwyluso'r gwaith, a diolchwn iddynt am eu dealltwriaeth.

"Rydym yn gobeithio y bydd pawb sy'n chwarae ar y cyrtiau yn cael llawer o foddhad yn gwneud hynny."

Meddai Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu LTA, "Rydym yn falch iawn o weithio gyda Chyngor Abertawe i wella'r cyfleusterau tenis yn ei barciau, ac i ddarparu mwy o gyfleoedd i unrhyw un gydio mewn raced a bod yn heini.

"Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o Brosiect Tennis Llywodraeth y DU ac LTA Parks, ac mae'n golygu y bydd cyrtiau ar gael i bobl eu defnyddio am flynyddoedd i ddod.

"Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor i sicrhau bod gan y gymuned amrywiaeth o gyfleoedd hygyrch i fynd ar y cwrt, ac i wneud y gamp yn fwy hygyrch i lawer mwy o bobl."

Close Dewis iaith