Toglo gwelededd dewislen symudol

O egin fusnes yn Abertawe i fusnes sy'n werth £1m mewn dwy flynedd

Mae asiantaeth farchnata yn Abertawe wedi datblygu o egin fusnes i fusnes sy'n werth £1m mewn dwy flynedd.

The Cusp Marketing Team

The Cusp Marketing Team

Mae asiantaeth farchnata yn Abertawe wedi datblygu o egin fusnes i fusnes sy'n werth £1m mewn dwy flynedd.

Mae gan The Cusp, a sefydlwyd gan Jess Hickman a Louise Rengozzi, gleientiaid ar draws y DU yn ogystal ag yn Abu Dhabi.

Bydd y busnes yn dathlu ei ail ben-blwydd ddydd Llun 3 Mawrth, ac mae'n darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys marchnata ar gyfryngau cymdeithasol, fideos ar alw, marchnata clywedol a hysbysiadau awyr agored.

Mae'r asiantaeth hefyd wedi lansio podlediad o'r enw 'Marketing Heroes' sy'n rhannu mewnwelediadau wythnosol oddi wrth arweinwyr diwydiannol sy'n ysbrydoli busnesau i greu effaith barhaol.

Mae tocynnau bellach ar gael ar gyfer digwyddiad o'r enw 'Rise and Thrive'  a drefnwyd gan The Cusp ar ddydd Iau 6 Mawrth yn y cyfnod cyn Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

Bydd yn digwydd yn The Georgian yn Abertawe rhwng 8am ac 11am ac yn dathlu menywod ym maes busnes, a bydd y rheini sy'n bresennol yn clywed gan restr o entrepreneuriaid benywaidd a menywod dylanwadol o sefydliadau blaengar yng Nghymru.

Byddant yn cynnwys Sarah Drummond, cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Drop Bear Beer; Isabella Williams, sylfaenydd Sunnieside Skin; Dr Michaela James, sylfaenydd Girls to the Front; y siaradwr busnes Bernie Davies; a'r hyfforddwr meddylfryd a marchnata Crystal Jukes. 

Nid yw The Cusp wedi derbyn unrhyw fuddsoddiad allanol ar wahân i grant busnes oddi wrth Gyngor Abertawe trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Mawrth 2025