Toglo gwelededd dewislen symudol

Tri phrosiect blaenllaw yn y ddinas sydd bron â chael eu cwblhau

O adfer adeiladau hanesyddol i greu swyddfeydd o ansawdd uchel, mae Aelodau Cabinet Cyngor Abertawe wedi cael cip y tu ôl i'r llennir ar rai o'r prosiectau sy'n helpu i drawsnewid canol y ddinas.

Palace Theatre visit (May 2024)

Palace Theatre visit (May 2024)

Aethant i Theatr y Palace, 71/72 Ffordd y Brenin a Neuadd Albert i weld y cynnydd a wneir ar y safle drostynt eu hunain.

Disgwylir i Theatr y Palace, sy'n dros 136 oed, ailagor eleni o ganlyniad i waith ailwampio sensitif, diolch i arian oddi wrth y cyngor a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae busnesau arbenigol sydd wedi bod yn rhan o gyflawni'r prosiect yn cynnwys R&M Williams Ltd a GWP Architecture. Y busnes o Gymru a fydd yn rheoli'r adeilad pan fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau yw'r cwmni llwyddiannus Tramshed Tech, a disgwylir i'r adeilad ddod yn weithle a rennir.

Mae hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin, a ddatblygir gan Gyngor Abertawe ac a ariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sy'n werth £1.3bn, yn cael ei drawsnewid yn swyddfeydd o ansawdd uchel i 600 o weithwyr.

Disgwylir i'r gwaith adeiladu yno, dan arweiniad Bouygues UK, gael ei gwblhau yn y misoedd nesaf ac mae trafodaethau cadarnhaol gyda thenantiaid posib yn parhau. Mae rhai o'r trafodaethau hyn wedi cyrraedd cam cyn gosod uwch.

LoftCo Ltd o Gaerdydd sy'n gyfrifol am drawsnewid Neuadd Albert, y disgwylir iddi ailagor y mis nesaf. Bydd cynllun yr adeilad, sy'n dyddio'n ôl i 1864, yn cynnwys neuadd fwyd, ardal berfformio a llwyfan, ystafelloedd bwyta preifat, karaoke a chanolfan chwarae i blant. Bydd hefyd yn cynnwys swyddfeydd, unedau ar gyfer gwasanaethau iechyd a ffordd o fyw, gardd to, ardal waith, campfa a llety â gwasanaeth i ymwelwyr.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Fel cyngor, rydym yn ymrwymedig i wella economi Abertawe trwy gynlluniau adfywio mawr oherwydd eu bod yn creu swyddi i bobl leol a gwell gyfleusterau i breswylwyr a busnesau lleol, sy'n helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol.

"Mae prosiectau Theatr y Palace, Neuadd Albert a 71/72 Ffordd y Brenin yn rhan o restr o brosiectau sydd naill ai wedi'u cwblhau, sy'n mynd rhagddo neu sydd wedi'u cynllunio yn Abertawe wrth i waith trawsnewid mawr y ddinas barhau'n gyflym.

"Roedd yn wych mynd y tu ôl i'r llenni a gweld y prosiectau hyn dros ein hunain a gweld y cynnydd gwych a wneir cyn iddynt gael eu cwblhau a'u hagor."