Arolygwyr yn canmol ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol
Mae arolygwyr Estyn wedi dweud bod Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw yn ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol lle rhoddir blaenoriaeth uchel i les disgyblion a staff.
Gwnaethant ymweld â'r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe ym mis Tachwedd ac maent bellach wedi cyhoeddi eu canfyddiadau.
Yn ôl yr adroddiad, "Mae gwerthoedd 'cyfeillgarwch', 'caredigrwydd, 'cwrteisi' a 'Chymreictod' yn rhan hanfodol o amgylchedd dysgu'r ysgol.
"Mae gan y disgyblion ddealltwriaeth gadarn o'r gwerthoedd hyn, sy'n cyfrannu'n effeithiol at eu hymddygiad da.
"Mae'r ysgol yn darparu cwricwlwm cyfoethog sy'n adlewyrchu hanes a diwylliant yr ardal leol."
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud, "Mae pwyslais mawr ar godi dyheadau disgyblion a'u hannog i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol drwy ddarparu amrywiaeth o brofiadau dysgu ysgogol."
Nododd arolygwyr fod yr holl staff yn gweithio gyda'i gilydd yn ddiwyd i ddarparu profiadau dysgu ysgogol a diddorol sy'n diwallu anghenion disgyblion, lle mae'r egwyddorion hanfodol sydd wrth wraidd y cwricwlwm yn cael eu cynnwys yn gall.
Gwnaethant hefyd amlygu mai un agwedd nodedig ar yr ysgol yw arweinyddiaeth effeithiol a chadarn y pennaeth a'r uwch-dîm arweinyddiaeth.
Dywedodd arolygwyr fod llywodraethwyr yr ysgol yn gefnogol o waith yr ysgol, a'u bod yn nabod yr ysgol a'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu'n dda iawn, a'u bod yn ymroddedig i gefnogi a herio arweinwyr.
Meddai'r Pennaeth, Mrs James: "Rwy'n falch iawn o'r adroddiad, a bod yr arolygwyr wedi gweld drostynt eu hunain yr ethos gofalgar a chynhwysol sydd ar waith yn ein hysgol, a'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud bob dydd.
"Rwy'n ddiolchgar i'n holl staff a'n disgyblion am eu gwaith caled ac mae'n rhaid i mi ddiolch i'w teuluoedd a'r gymuned ehangach am eu cefnogaeth barhaus."
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith: "Hoffwn longyfarch pawb yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw ar adroddiad arolygu cadarnhaol iawn."