Toglo gwelededd dewislen symudol

Dathliad Nadolig i'r ynysig a'r rheini sy'n agored i niwed yn agosáu

Mae Abertawe'n dod ynghyd unwaith eto i ledaenu hwyl yr ŵyl i bobl mewn angen yn ystod digwyddiad Nadoligaidd arbennig iawn.

Together at Christmas Preview 2023

Together at Christmas Preview 2023

Bydd JR Events and Catering, gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe, yn agor drysau Neuadd Brangwyn ddydd Mawrth 5 Rhagfyr i weini cinio Nadolig dau gwrs am ddim i bobl yn Abertawe sy'n agored i niwed, yn teimlo'n ynysig neu a all fod yn ddigartref.

Cynhelir y digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig rhwng canol dydd a 3pm, a bydd cynrychiolwyr o amrywiaeth o wasanaethau ac elusennau'n darparu gwybodaeth am gymorth sydd ar gael.

Mae'r diwrnod yn cael ei noddi gan fenter Dinas Hawliau Dynol Cyngor Abertawe, sydd wedi arwain at Abertawe'n cael ei datgan yn Ddinas Hawliau Dynol Gyntaf Cymru, a busnesau'n rhoi o'i hamser rhydd i ddarparu adloniant, toriadau gwallt am ddim, ffynnon siocled a chyfraniadau eraill.

Close Dewis iaith