Toglo gwelededd dewislen symudol

Dros £0.6 biliwn y flwyddyn - dyna werth twristiaeth i Abertawe erbyn hyn

Mae gwerth blynyddol twristiaeth i economi Bae Abertawe yn fwy na £600 miliwn am y tro cyntaf.

The Bunkhouse Swansea

The Bunkhouse Swansea

Mae ffigurau newydd yn dangos y gwariodd ymwelwyr £609 miliwn drwy gydol 2023 yn ardal Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr.

Mae'r  ffigurau STEAM (Monitor Gweithgarwch Economaidd Twristiaeth Scarborough) a baratowyd ar gyfer Cyngor Abertawe hefyd yn dangos bod nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu i dros 4.7 miliwn y llynedd, gyda'r diwydiant twristiaeth yn cefnogi 5,470 o swyddi yn yr ardal.

Mae Bae Abertawe, fel cyrchfan i ymwelwyr, yn cynnig amrywiaeth gynyddol o atyniadau dan do ac awyr agored drwy gydol y flwyddyn.

Mae'r cyrchfannau hynny sy'n rhoi hwb i ffigurau ymwelwyr yn cynnwys canolfan ymwelwyr newydd Distyllfa Penderyn yng Nglandŵr, a agorodd y llynedd.

Mae prosiectau newydd a busnesau a fydd yn agor dros y blynyddoedd nesaf yn dod â mwy o optimistiaeth, yn ôl y Cyngor.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Y llynedd gwelwyd cynnydd o 5% mewn gwariant gan ymwelwyr flwyddyn ar ôl blwyddyn, cynnydd o 11.5% mewn nifer yr ymwelwyr a chynnydd o 5.4% mewn nifer y swyddi a gefnogir gan dwristiaeth.

"Mae'r canlyniadau llwyddiannus yn adlewyrchu'r ffordd gyfunol a chydweithredol y mae'r sector yn gweithio'n lleol - gan gynnwys y sectorau preifat a chyhoeddus a'r trydydd sector."

Meddai Jordan McGuire, cyfarwyddwr The Bunkhouse, lleoliad cerddoriaeth yng nghanol y ddinas, "Mae amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog Abertawe, sy'n gyfuniad o rythmau cerddoriaeth, celf a chymuned, yn hybu ei heconomi ymwelwyr.

"Drwy hyn, mae egni creadigol Abertawe yn atseinio, gan gyfoethogi ein tirwedd ddiwylliannol, ac yn rhoi bywyd i'r economi leol."

Mae gweithgarwch marchnata twristiaeth y Cyngor yn hyrwyddo'r ardal yn llwyddiannus fel cyrchfan drwy gydol y flwyddyn, gan gefnogi busnesau y tu allan i'r tymor drwy hyrwyddo gwyliau cerdded yn yr hydref, seibiannau lles yn ystod y gaeaf, a gwyliau sy'n gyfeillgar i gŵn yn y gwanwyn.

 

Close Dewis iaith