Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb ariannol i fusnesau twristiaeth Abertawe

Busnesau twristiaeth bach yn gwneud yn fawr o'r cyllid sydd ar gael i wella eu harlwy.

Tides Reach Guest House, Mumbles

Tides Reach Guest House, Mumbles

Drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae Cyngor Abertawe wedi llwyddo i helpu busnesau llety bach i wella ansawdd eu harlwy i ymwelwyr.

Mae'r cymorth hwn wedi galluogi busnesau i gael sgoriau uwch gan Croeso Cymru a gwella profiad cyffredinol ymwelwyr.

Cafodd 12 o brosiectau ar draws yr ardal eu cefnogi drwy'r Gronfa Cymorth i Dwristiaeth, sydd ar waith ar y trydydd tro bellach. 

Defnyddiodd un o'r buddiolwyr, Tides Reach Guesthouse yn y Mwmbwls, y cyllid i ailwampio rhai o'i ystafelloedd gwely a gwneud yr eiddo'n fwy hygyrch. Mae'r gwelliannau hyn wedi galluogi'r tŷ llety i gynnal ei sgôr 4 seren gyda Croeso Cymru.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, Robert Francis-Davies,

"Wythnos Twristiaeth Cymru yw'r cyfle perffaith i dynnu sylw at ddiwydiant sydd bellach yn werth £609m i'r economi leol, gan gynnig cyfleoedd cyflogaeth yn lleol a gwella ein hiechyd a'n lles.

"Mae busnesau bach yn gwneud cyfraniad hollbwysig at brofiad ymwelwyr ac rydym yn falch ein bod yn gallu cefnogi'r rhai hynny sy'n dewis buddsoddi mewn ansawdd, hygyrchedd a chynaliadwyedd."

Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am y cyllid sydd ar gael i'ch busnes, gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio i gylchlythyr wythnosol y Tîm Twristiaeth drwy e-bostio Tourism.Team@abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Gorffenaf 2024