Toglo gwelededd dewislen symudol

Sêr lleol ym maes twristiaeth yn helpu i ddenu dros filiwn o bobl i wylio'n fideos

Mae amrywiaeth o sêr busnes yn Abertawe yn helpu i godi proffil yr ardal drwy ymddangos mewn fideos twristiaeth.

Bethan of The Lighthouse

Bethan of The Lighthouse

Mae arwyr lleol fel Anthony Williams o Plantasia, atyniad yng nghanol y ddinas a Bethan Matthews o The Lighthouse Bar & Kitchen yn y Mwmbwls yn ymddangos mewn ffilmiau byr i hyrwyddo'r ardal.

Mae eraill sydd wedi cymryd rhan yn y fideos, a gomisiynwyd gan dîm twristiaeth y Cyngor, yn cynnwys Sian ac Andrew Brookes o Gower Gin.

Maent i gyd yn esbonio pam maent yn dwlu ar fyw a gweithio yn eu "lle hapus" - Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr.

Mae'r Cyngor hefyd wedi cynhyrchu amrywiaeth o fideos Llwybrau Bae Abertawe, sy'n hyrwyddo celf a diwylliant, treftadaeth, bwyd a diod, lles a chwaraeon dŵr yr ardal.

Mae busnesau twristiaeth sy'n rhan o'r fideos yn cynnwys atyniadau, bwytai, cyflenwyr llety, darparwyr gwasanaethau a lleoliadau adloniant.

Y llynedd, gwyliwyd y fideos gan dros filiwn o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol, a helpodd i hybu gwerth y sector yn lleol i dros £500 miliwn. 

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor,Robert Francis-Davies,"Mae pobl Abertawe yn dwlu ar roi croeso cynnes i ymwelwyr - dyna pam roeddem yn awyddus i'w cynnwys yn rhai o'n fideos hyrwyddol. Diolch yn fawr iawn i'n holl bartneriaid sydd wedi gweithio gyda ni ar y ffilmiau hyn!"

Y 10 ffilm twristiaeth fwyaf poblogaidd ar gyfer y Cyngor yn 2023 oedd:

Mae ymgyrch Llwybrau Bae Abertawe'r ddinas yn parhau ac mae'r tîm twristiaeth yn parhau â'i ymgyrch Lle Hapus.

Llun: Un o sêr y fideos twristiaeth, Bethan Matthews o The Lighthouse Bar & Kitchen yn y Mwmbwls.

Close Dewis iaith