Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid wedi'i roi i helpu i roi hwb i dwristiaeth Abertawe

Mae busnesau twristiaeth ar draws ardal Abertawe wedi sicrhau cyllid pwysig newydd i hybu eu rhagolygon.

Lliw Reservoir

Lliw Reservoir

Rhoddwyd cyllid i weithredwyr lletyau bach i ymwelwyr mewn ardaloedd sy'n cynnwys Llanmadog Rhosili, Felindre a Chlydach gan Gyngor Abertawe dan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae cynigwyr llwyddiannus bellach yn dechrau gwaith ar eu prosiectau. Maent yn amrywio o welliannau hygyrchedd ar gyfer ystafelloedd gwely ac ystafelloedd ymolchi i gyfleusterau storio newydd ar gyfer cyfarpar gweithgareddau arbenigol ac o addasu tai allan i wella cyfleusterau cawodydd a thoiledau i wersyllwyr.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth Robert Francis-Davies, "Mae'n newyddion gwych ein bod wedi gallu helpu rhagor o fusnesau lleol bach. Mae twristiaeth yn hanfodol i economi leol ardal Abertawe."

Gwahoddwyd darparwyr lletyau bach i ymwelwyr mewn ardaloedd gweledig a lled-wledig i gynnig am gymorth o hyd at £10,000. Roedd y cynllun yn dilyn rowndiau cyllido blaenorol tebyg dan gynllun adferiad economaidd y cyngor yn dilyn y pandemig.

Cynigiwyd am y dyraniad cyllid gwerth £10,000 gan y cyngor ar gyfer y cynllun twristiaeth diweddaraf hwn mewn mater o wythnosau. Goruchwyliwyd y broses gan dîm twristiaeth y cyngor.

Llun: Un o gronfeydd dŵr Lliw Abertawe, lleoliad sy'n boblogaidd gyda cherddwyr.

Close Dewis iaith