Cae pob tywydd, ffreutur a lleoedd cymunedol newydd ar gyfer ysgol gynradd
Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Townhill yn Abertawe ar fin elwa o gae pob tywydd, ardal fwyta newydd, cegin a chyfleusterau cymunedol.
Heddiw, cefnogodd Cabinet Cyngor Abertawe'r cynllun gwerth £3,257,000.
Mae cegin a ffreutur bresennol yr ysgol yn rhy fach a ni all ateb y galw cynyddol gan y bydd pob ysgol gynradd yn Abertawe yn cynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl eleni.
Mae opsiynau gwahanol wedi'u harchwilio a'r ateb a ffefrir yw dymchwel y ffreutur bresennol ac adeiladu adeilad newydd yn ei le a fyddai'n cynnwys cyfleusterau i'w defnyddio gan y gymuned ehangach y tu allan i oriau ysgol.