Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb trafnidiaeth sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy wedi'i gynllunio ar gyfer Eden Las

Bwriedir i'r cyfleuster cyntaf erioed yng Nghymru a fydd yn gwefru cerbydau gyda thrydan a hydrogen gael ei greu yn Abertawe.

Electric car charging

Electric car charging

Bydd yr hwb yn darparu pŵer di-garbon i geir a cherbydau cludiant cyhoeddus. Dyma'r tro cyntaf y bydd pŵer trydanol a hydrogen ar gael ar yr un safle yng Nghymru.

Dyma elfen ddiweddaraf prosiect ynni adnewyddadwy Eden Las gwerth £1.7 biliwn yn Abertawe.

Mae trafodaethau ar y gweill gyda Chyngor Abertawe ynghylch tir a allai gynnwys yr hwb trafnidiaeth sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy o bosib.

Mae nodweddion eraill y prosiect Eden Las, a fydd yn cael ei ariannu gan y sector preifat, yn cynnwys:

  • Morlyn llanw gyda thyrbinau tanddwr sy'n cynhyrchu pŵer di-garbon o'r môr
  • Y cyfleuster paneli solar arnofiol mwyaf yn y DU
  • Cyfleuster batri uwch-dechnoleg i storio'r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar y safle
  • Ffatri weithgynhyrchu i greu'r batris uwch-dechnoleg
  • Canolfan ddata ar raddfa fawr sydd wedi'i phweru gan ynni adnewyddadwy
  • Tua 150 o eco-gartrefi ynni effeithlon wedi'u hangori yn y dŵr
  • Tai fforddiadwy ar y glannau sydd wedi'u pweru gan ynni adnewyddadwy
  • Canolfan ymchwil y dyfroedd a newid yn yr hinsawdd

Bydd Eden Las yn creu dros 2,500 o swyddi parhaol ac yn cefnogi 16,000 o swyddi eraill ar draws Cymru a'r DU, wrth greu swyddi ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu.

Caiff Eden Las ei lleoli ar hyd ardal helaeth o dir a dŵr, i'r de o Ddoc Tywysog Cymru yn ardal SA1 Abertawe.

Mae trafodaethau rhwng DST Innovations a pherchnogion tir eraill yn yr ardal hefyd yn mynd rhagddynt.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Cafwyd cynigion blaenorol ar gyfer y morlyn llanw yn ystod y blynyddoedd diweddar ond mae'r hyn sy'n cael ei gynnig yn awr ar gyfer Eden Las yn gynllun sydd wedi'i wella'n fawr oherwydd yr elfennau ychwanegol niferus y bydd hefyd yn eu darparu.

Yn ogystal â morlyn llanw, mae hefyd yn cynnwys nifer mawr o gyfleusterau ynni adnewyddadwy eraill o'r radd flaenaf, a fydd yn cyfuno i greu miloedd o swyddi â chyflogau da i bobl leol ac yn lleihau ôl-troed carbon Abertawe.

"Mae Eden Las yn brosiect ynni integredig sy'n gallu darparu ynni tymor hir, cost isel - ac yn bwysicaf oll, gellir ei ddarparu heb fod yr angen am unrhyw gyllid gan y Llywodraeth.

"Mae'r hwb trafnidiaeth sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy yn ychwanegiad cyffrous i'r holl bethau eraill sydd wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn. Gyda mwy o geir trydan ar y ffordd heddiw, a'r symudiad tuag at gerbydau sydd wedi'u pweru gan hydrogen hefyd yn datblygu'n dda, bydd angen cyfleusterau i wefru'r cerbydau hyn dros y blynyddoedd nesaf.

"Bydd yr hwb trafnidiaeth yn helpu i ateb y galw hynny ac efallai y gall hefyd greu hydrogen ar y safle gan ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy.

"Byddai cyfleusterau fel hyn - y byddai ganddynt gysylltiadau agos â llwybrau cerdded a beicio - yn golygu y gall modurwyr adael eu ceir i'w gwefru wrth gerdded draw i ganol y ddinas.

"Caiff rhagor o fanylion eu cyhoeddi cyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny."

Mae'r cyngor hefyd wedi gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth y DU, a fyddai'n helpu i dalu costau ar gyfer gwneud gwelliannau i'r ffyrdd a mynediad er mwyn cefnogi'r prosiect Eden Las.

Bydd digonedd o gyfleoedd ar gael i bobl leol roi adborth pan fydd cynigion mwy manwl ar gael.

Gallai gwaith Eden Las ddechrau ar y safle'n gynnar yn 2023, yn amodol ar ganiatâd cynllunio. 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Awst 2022