Toglo gwelededd dewislen symudol

Eiddo hunanarlwyo - atebolrwydd i dalu Treth y Cyngor neu Ardrethi Busnes?

Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i'r rheolau ar gyfer asesu eiddo fel eiddo hunanarlwyo ac felly maent yn atebol i dalu Ardrethi Busnes yn hytrach na Threth y Cyngor.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n penderfynu pa dreth sy'n berthnasol, nid y Cyngor.

Wrth benderfynu a yw'r meini prawf angenrheidiol wedi'u bodloni, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn edrych ar wybodaeth osod o'r flwyddyn flaenorol. Mae angen i berchnogion eiddo hunanarlwyo fod yn ymwybodol mai argaeledd a gosod eu heiddo i'w rentu yn ystod y flwyddyn flaenorol fydd yn penderfynu a yw'r eiddo yn gymwys ar gyfer Ardrethi Busnes yn hytrach na Threth y Cyngor.

Yng Nghymru, bydd eiddo hunanarlwyo yn destun Ardrethi Busnes os yw'r ddau ddatganiad isod yn wir dros y 12 mis diwethaf:

  1. Roedd yr eiddo ar gael i'w osod am gyfnodau byr yn fasnachol am o leiaf 252 noson
  2. Roedd yr eiddo wedi'i osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 noson

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru yn: Ardrethi Annomestig ar gyfer Eiddo Hunanddarpar yng Nghymru (Busnes Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Rhoi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio eich bod yn credu y dylai eich eiddo fod yn destun Ardrethi Busnes (Ardrethi Annomestig)

Os ydych yn talu Treth y Cyngor ar eich eiddo hunanarlwyo ar hyn o bryd ac mae eich eiddo wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer Ardrethi Busnes, gallwch roi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio drwy lenwi eu ffurflen: Cais am ardrethi busnes ar gyfer eiddo llety hunanddarpar (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Gallwch lenwi'r ffurflen hon os yw'ch eiddo'n berthnasol i un o'r canlynol:

  • ar hyn o bryd yn cael ei brisio fel eiddo domestig ond rydych yn credu ei fod bellach yn gymwys ar gyfer Ardrethi Busnes
  • eiddo hunanarlwyo newydd sydd wedi bodloni'r meini prawf dros y 12 mis diwethaf ac sy'n gymwys ar gyfer Ardrethi Busnes

Os yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn penderfynu y dylai eich eiddo fod yn destun Ardrethi Busnes, bydd yn cyfrifo gwerth ardrethol eich eiddo yn seiliedig ar ba fath o eiddo ydyw, ei faint, ei leoliad, ei ansawdd a faint o incwm rydych yn debygol o'i gael o'i osod.

Os penderfynir bod eich eiddo yn atebol am Ardrethi Annomestig yn hytrach na Threth y Cyngor, dylech wirio a ydych yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yng Nghymru: Ardrethi Annomestig - Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (Busnes Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Hydref 2024