Toglo gwelededd dewislen symudol

Premiymau Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi

Mae eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi yn Abertawe yn destun premiwm o 100% o Dreth y Cyngor.

Codir premiwm ar ben y tâl Treth y Cyngor safonol ar eiddo sy'n dod o dan y categorïau canlynol:

  1. Mae'r premiwm ar gartrefi gwag tymor hir yn berthnasol i unrhyw annedd sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn am fwy na 12 mis (oni bai ei bod yn perthyn i un o'r dosbarthiadau eithriedig 1 i 4 isod).
  2. Mae'r premiwm ar ail gartrefi yn berthnasol i unrhyw annedd sydd wedi'i dodrefnu ac nid yw'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa i unrhyw un (oni bai ei bod yn perthyn i un o'r dosbarthiadau eithriedig 1 i 7 isod).

Sylwer: er bod y tâl premiwm yn cael ei alw'n bremiwm ar 'ail gartrefi', mae hyn fel ei fod yn hawdd cyfeirio ato at ddibenion gweinyddol. Mae deddfwriaeth yn cadarnhau y bydd y premiwm yn berthnasol i bob eiddo sydd wedi'i ddodrefnu ac nad yw'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa i unrhyw un.

 

Eithriadau i'r premiwm

Os yw'ch eiddo'n perthyn i un o'r categorïau canlynol yna efallai y byddwch yn gymwys i gael eithriad ac yn gorfod talu tâl Treth y Cyngor safonol yn unig am yr eiddo.

Eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi

  • Dosbarth 1 - anheddau sydd wrthi'n cael eu marchnata i'w gwerthu - mae terfyn amser o flwyddyn ar gyfer hwn
  • Dosbarth 2 - anheddau sydd wrthi'n cael eu marchnata i'w gosod dan denantiaeth ar amodau a thelerau am gyfnod o o leiaf 6 mis (nid gosodiadau gwyliau/Airbnb tymor byr) - mae hyn am gyfnod cyfyngedig o 1 flwyddyn
  • Dosbarth 3 - rhandai sy'n rhan o'r brif annedd neu'n cael eu trin fel hynny
  • Dosbarth 4 - anheddau a fyddai'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa rhywun pe na bai'n byw yn llety'r Lluoedd Arfog

Ail gartrefi'n unig

  • Dosbarth 5 - lleiniau carafanau ac angorau cychod y mae pobl yn byw ynddynt
  • Dosbarth 6 - anheddau lle mae amod cynllunio:
    • yn rhwystro deiliadaeth am gyfnod parhaus o o leiaf 28 niwrnod mewn unrhyw un gyfnod o flwyddyn
    • yn nodi y gellir defnyddio'r annedd fel llety gwyliau yn unig neu
    • yn atal deiliadaeth fel unig gartref neu brif gartref person
  • Dosbarth 7 - anheddau sy'n gysylltiedig â swydd
    • wedi'u darparu gan gyflogwr ar gyfer y gweithiwr, at ddibenion dyletswyddau gwaith fel a gadarnhawyd yn ei gontract cyflogaeth, a'r cyflogwr yw'r person cyfrifol preswyl yn yr eiddo hwnnw

Os ydych chi'n meddwl bod eich eiddo'n perthyn i un o'r dosbarthiadau eithriedig uchod, darparwch dystiolaeth briodol i Is-adran Treth y Cyngor drwy e-bostio trethycyngor@abertawe.gov.uk.

Enghreifftiau o dystiolaeth briodol:

  • cytundeb neu gontract gan werthwr tai, a dolen uniongyrchol i wefan yr asiant yn dangos bod eich eiddo'n cael ei hysbysebu i'w werthu neu i'w roi ar osod
  • slip tâl yn dangos cyfraniad yn gyfnewid am dreth y cyngor ar gyfer personél y lluoedd arfog
  • contract cyflogadwyedd ar gyfer anheddau sy'n ymwneud â swyddi

Enghreifftiau yn unig yw'r rhain, a gellir darparu tystiolaeth briodol arall hefyd.

 

Help ar gyfer perchnogion eiddo gwag tymor hir

Os hoffech chi weithio gyda ni i sicrhau bod yr eiddo'n cael ei ddefnyddio drwy'r amser, gallwn ni eich helpu o bosib:

Grantiau a benthyciadau ar gyfer eiddo gwag Grantiau a benthyciadau ar gyfer eiddo gwag

 

Diben y premiwm

Diben y disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol godi premiwm yw bod yn ddull i helpu awdurdodau lleol i wneud y canlynol:

  • ailddefnyddio eiddo gwag tymor hir er mwyn darparu tai diogel, clud a fforddiadwy
  • cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol

Cyflwynwyd y premiymau yn Abertawe yn unol ag adrannau 12a a 12b o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y'i mewnosodwyd gan Adran 139 Deddf Tai (Cymru) 2014. Rhoddwyd y premiwm ar eiddo gwag tymor hir ar waith o 1 Ebrill 2020 a rhoddwyd y premiwm ar ail gartrefi ar waith o 1 Ebrill 2021.

Premiymau Treth y Cyngor - incwm a gwariant

Sut mae'r arian a gesglir o bremiymau Treth y Cyngor yn cael ei wario?
Close Dewis iaith