Toglo gwelededd dewislen symudol

Athletwyr de Cymru yn barod ar gyfer wythnos fawr o chwaraeon

Mae athletwyr o bob rhan o dde Cymru yn brysur yn paratoi ar gyfer wythnos fawr o chwaraeon rhyngwladol sy'n dod i Abertawe.

Triathletes

Triathletes

Bydd cannoedd ohonynt - fel y gŵr a'r wraig o Abertawe, David a Kelly Hutin - ymhlith y miloedd a fydd yn ymweld o Gymru, Ewrop a gwledydd eraill y byd, i gymryd rhan yn nigwyddiadau o safon yr wythnos hon.

Fel trefnwyr a phartneriaid yr wythnos, maent am i bobl leol gael eu hysbrydoli gan yr wythnos fawr, cystadlu mewn chwaraeon a'u mwynhau.

Rhwng 10 ac 16 Gorffennaf, bydd Abertawe yn croesawu digwyddiadau rhyngwladol am ddim i wylwyr sef IRONMAN 70.3 Abertawe 2023, Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe a'r Ŵyl Parachwaraeon - gyda'r trefnwyr yn cael eu cefnogi gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'n braf gweld athletwyr Cymru'n paratoi ar gyfer wythnos wych arall o chwaraeon. Bydd y ddinas yn estyn croeso cynnes i'r miloedd o athletwyr a chefnogwyr a fydd yma."

Mae David a Kelly o Sgeti, sy'n aelodau o glwb chwaraeon de Cymru, Celtic Tri, ymhlith y rheini a fydd yn cymryd rhan yn IRONMAN 70.3 Abertawe, eu digwyddiad IRONMAN 70.3 cyntaf.

Meddai Kelly, "Gwyddwn ei fod yn mynd i fod yn anodd, ond rydym yn benderfynol o gwblhau'r digwyddiad ac rydym yn gwybod y bydd yr holl gyfranogwyr yn cael eu hannog yn eu blaenau gan ffrindiau, perthnasau, ffrindiau gwaith a chefnogwyr.

Meddai David, "Y llynedd, gwirfoddolom ar orsafoedd bwydo'r digwyddiad, a chawsom flas ar holl gyffro digwyddiad IRONMAN, ynghyd ag agwedd broffesiynol ac ymroddiad yr athletwyr. Bydd yr un peth yr haf yma."

Mae'r cwpwl yn gweithio i grŵp Solo Service o Abertawe sydd â chontractau glanhau masnachol o gwmpas y DU. Mae Kelly yn rheolwr cyllid a David yn gyfarwyddwr gweithrediadau.

Bydd IROMAN 70.3 Abertawe, digwyddiad newydd ar gyfer yr haf diwethaf, yn dychwelyd ddydd Sul 16 Gorffennaf gyda digwyddiad nofio, beicio a rhedeg pellter canol. Bydd tua 2,000 o athletwyr yn mwynhau'r harddwch naturiol eithriadol a thirweddau arfordirol dramatig yr arfordir golygfaol.

Cyfres Para Treiathlon y Byd 2023 Volvo Abertawe ar ddydd Sadwrn 15 Awst yw prif ddigwyddiad Gŵyl Parachwaraeon Chwaraeon Anabledd Cymru (10-15 Gorffennaf).

Bydd yn dod â rhai o bara-athletwyr gorau'r byd i'r ddinas i nofio, beicio a rhedeg a Glannau SA1 fydd y lleoliad ar gyfer yr holl gyffro.

Bydd digwyddiadau'r Ŵyl Parachwaraeon fel Twrnamaint Para Golff Agored Cymru, cyfresInsport:Abertawe, gyda mwy nag 20 camp ar gael i roi cynnig arnynt, Pencampwriaethau Agored Tîm Boccia y DU a gêm ryngwladol Pêl-droed Byddar Cymru yn erbyn Yr Alban.

Gall preswylwyr, ymwelwyr a busnesau ag unrhyw ymholiadau ynghylch trefniadau fel newidiadau i drefn ffyrdd e-bostio swansea@britishtriathlon.org a swansea70.3@ironmanroadaccess.com.

Rhagor:  www.bit.ly/WTPSswansea & www.ironman.com/im703-swansea

Llun: David a Kelly Hutin.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Mehefin 2023