Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae'n ôl! Mae Typhoon yr RAF yn dod i Abertawe

Disgwylir i jet byd-enwog Typhoon yr RAF ddiddanu cynulleidfaoedd yn Sioe Awyr Cymru yr haf hwn.

Typhoon over Swansea

Typhoon over Swansea

Dyma'r ail enw mawr a gadarnhawyd ar gyfer y digwyddiad deuddydd am ddim y disgwylir iddo ddod i Fae Abertawe ar 6 a 7 Gorffennaf.

Trefnir y sioe flynyddol gan y cyngor - a disgwylir i'r Typhoon, sy'n gallu teithio bron ddwywaith cyflymder sain, ymddangos ar y ddau ddiwrnod.

Disgwylir i'r Red Arrows ymddangos ar y dydd Sadwrn, a bydd llawer o sêr eraill yr awyr ac amrywiaeth eang o hwyl i'r teulu ar y ddaear ar gael drwy gydol y penwythnos mawr, gan gynnwys arddangosiadau, profiadau realiti rhithwir a cherddoriaeth fyw.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Bydd Sioe Awyr Cymru'n benwythnos gwych yr haf hwn ac rydym yn falch iawn y bydd y Typhoon yn hedfan dros Abertawe eto.

"Mae'r sioe awyr, gyda'i hawyrgylch teuluol gwych, yn bartner gwych ar gyfer digwyddiadau mawr lleol eraill, fel IRONMAN 70.3 Abertawe a Chyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe.

"Mae'n cyfrannu miliynau o bunnoedd at ein heconomi leol."

Lluniau: Typhoon yr RAF dros Fae Abertawe.

 

 

 

 

Close Dewis iaith