Pobl Abertawe'n agor eu 'cartrefi a'u calonnau' i ffoaduriaid Wcráin
Mae dros 100 o aelwydydd yn Abertawe'n noddi ffoaduriaid y bu'n rhaid iddynt adael y gwrthdaro yn eu mamwlad ar hyn o bryd, fel y gall menywod, plant a theuluoedd gael llety diogel ac addas - ond mae angen mwy o noddwyr arnom.
Mae Tîm Ailsefydlu Ffoaduriaid Cyngor Abertawe wedi bod yn helpu i sicrhau eu bod yn cael cymaint o gefnogaeth â phosib i ymgartrefu yn y ddinas.
Mae ffoaduriaid yn defnyddio amrywiaeth o wasanaethau eraill y cyngor gan gynnwys ysgolion, gwaith, hyfforddiant a lleoliadau gwirfoddoli, ac mae llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio i sicrhau eu bod yn teimlo'n gartrefol.
Dywedodd un ffoadur a gyrhaeddodd Abertawe gyda'i ddwy ferch ifanc y byddai'n fythol ddiolchgar i'w noddwyr a phobl Abertawe am y croeso y mae wedi'i gael.
Meddai, "Ni fyddwn wedi gallu dychmygu y byddai pobl mor garedig i ni, ac yn fy nghefnogi i a fy merched gymaint. Maen nhw wedi agor eu calonnau i ni, yn ogystal â'u cartrefi."
Mae Cyngor Abertawe wedi cydnabod yr heriau ariannol y mae noddwyr yn eu hwynebu yn dilyn y cynnydd mewn costau byw, ac mae wedi cynyddu ei daliadau diolch i £500 y mis.
Mae tua 40 o ysgolion ar draws y ddinas wedi croesawu 140 o blant o Wcráin rhyngddynt i'w dosbarthiadau, ac wedi'u helpu i ymgartrefu.
Mae timau holl lyfrgelloedd Abertawe a gynhelir gan y cyngor hefyd wedi bod yn croesawu ffoaduriaid drwy ddarparu llyfrau, gan gynnwys straeon i blant, mynediad at y we a gwahoddiadau i ddigwyddiadau fel sesiynau cân a rhigwm.
Mae angen noddwyr o hyd i gynnig cartref i ffoaduriaid o Wcráin yn Abertawe.
Os oes gennych ystafell sbâr neu lety gwag a hoffech roi cartref i Wcreiniad, cysylltwch â Thîm Ailsefydlu Cyngor Abertawe drwy e-bostio ukrainerefugeesupport@swanea.gov.uk neu ffonio 01792 636565.