Toglo gwelededd dewislen symudol

Unedau masnachol a diwydiannol y Cyngor

Mae gennym nifer o unedau masnachol a diwydiannol ar gael i'w rhentu. Ceir 6 safle gweithdy gyda thua 75 o unedau ym Mharc Menter Abertawe a lleoliadau eraill.

Mae'r unedau'n amrywio o ran maint o 46 metr sgwâr (495 troedfedd sgwâr) i 232 metr sgwâr (2,497 troedfedd sgwâr). Dan reoliadau cynllunio ni chaniateir unrhyw ddefnydd masnachol.

Mae ein defnyddiau a gymeradwywyd o fewn B1, B2 a B8 'gorchymyn dosbarthiadau defnydd (Cymru)'

  • Storio a dosbarthiad
  • Diwydiannol cyffredinol
  • Swyddfeydd
  • Ymchwil a datblygiad
  • Diwydiant ysgafn

Caiff unrhyw eiddo sydd ar gael eu hysbysebu yn Eiddo a thir y cyngor sydd ar werth neu brydles.

Am ragor o fanylion, ffoniwch/e-bostiwch:

Chris Legg - Christopher.Legg@abertawe.gov.uk 01792 636612

Bydd yn ddefnyddiol i ni pe gallech gynnwys eich rhif ffôn cyswllt yn eich e-bost. Os yw'ch ymholiad am eiddo penodol, nodwch y manylion hynny yn y llinell destun.

Uned 7 Aber Court, Ferryboat Close, Llansamlet, SA6 8PL - Uned fach ar osod

Ar Osod: Uned ddiwydiannol canol teras yng nghanol ardal fenter Llansamlet. Yn elwa o ddrws caead rholer.

Uned 6 Aber Court, Ferryboat Close, Llansamlet, SA6 8PL - ar osod

Ar Osod: Uned ddiwydiannol canol teras yng nghanol ardal fenter Llansamlet. Yn elwa o ddrws caead rholer mawr.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Hydref 2025