Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwmni arobryn yn cael ei benodi i arwain gwaith adfywio Abertawe gwerth £750m

Mae cynigion gwerth £750m i drawsnewid canol dinas Abertawe ymhellach a datblygu cartrefi ac atyniadau newydd ar hyd yr arfordir a glan yr afon wedi cymryd cam mawr ymlaen.

Civic centre site

Civic centre site

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi penodi cwmni adfywio arobryn Urban Splash fel ei bartner datblygu a ffefrir ar gyfer nifer o safleoedd allweddol, gan gynnwys y Ganolfan Ddinesig, gogledd Abertawe Ganolog a darn o dir sy'n rhedeg gerllaw'r afon Tawe, yn ardal St Thomas y ddinas.

Mae cynigion cynnar ar gyfer pob safle wedi'u cynnig, a fydd nawr yn cael eu datblygu mewn mwy o fanylder cyn rhoi digon o gyfleoedd i bobl leol ddweud eu dweud a helpu i lywio'r cynlluniau.

Mae'r cynigion cynnar, a fydd yn cael eu cyflwyno gan y sector preifat, yn cynnwys:

  • Trawsnewid safle glan môr 23 erw'r Ganolfan Ddinesig yn gyrchfan glannau dinesig newydd i Abertawe. Cynigir cyrchfan defnydd a rennir ger y traeth, gyda chartrefi newydd a ffocws cryf ar hamdden a lletygarwch, gyda mannau dinesig eang a digon o wyrddni. Mae cynigion eraill yn cynnwys troedffordd newydd i'r traeth a chymysgedd o ddefnyddiau a digwyddiadau parhaol a thymhorol i greu cyrchfan i ymwelwyr yn ystod pob tymor
  •  Swyddfeydd newydd, fflatiau newydd i breswylwyr a mannau gweithio a rennir ar safle 5.5 erw Gogledd Abertawe Ganolog, yn hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant. Gan fanteisio ar y galw sylweddol am nwyddau sy'n seiliedig ar grefftau ar draws y DU, gellir hefyd gynnwys ardal i fusnesau creadigol bach gynhyrchu a gwerthu eu cynnyrch.
  • Gwaith adfywio a arweinir gan breswylwyr ar safle 7.5 erw yn St Thomas, sy'n cynnwys cartrefi teuluoedd, fflatiau, mannau cyhoeddus newydd a ffordd gerdded ar yr afon sy'n darparu mynediad uniongyrchol i'r afon am y tro cyntaf mewn dros 150 o flynyddoedd.

Mae'r cyngor wedi penodi Urban Splash yn dilyn proses chwilio helaeth am bartner datblygu a ffefrir fel rhan o fenter Adfywio Abertawe.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae penodiad Urban Splash yn bleidlais o hyder gan y sector preifat sy'n dangos potensial enfawr Abertawe yn ogystal â'r swm enfawr o waith adfywio, a arweinir gan y cyngor, sydd eisoes yn digwydd yn y ddinas, gan gynnwys ein hardal cam un Bae Copr gwerth £135m. Mae'r gwaith hwn wedi bod fel catalydd i ddenu cwmni profiadol o ansawdd fel Urban Splash, ac mae'n rhan o stori adfywio gwerth £1 biliwn sy'n datblygu ar draws Abertawe, sy'n trawsnewid y ddinas yn un o'r lleoedd gorau yn y DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef."

Mae Urban Splash wedi datblygu dros 60 o brosiectau adfywio ledled y DU yn y 25 mlynedd diwethaf. Maent yn cynnwys prosiect Royal William Yard yn Plymouth, lle mae'r cwmni wedi trawsnewid casgliad o adeileddau rhestredig Gradd I a Gradd II ar y glannau yn fflatiau, mannau gweithio, orielau, bariau a bwytai.

Meddai Tom Bloxham MBE, Cadeirydd Urban Splash,"Mae uchelgais a gweledigaeth Cyngor Abertawe wedi gwneud argraff fawr arnom, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â'r ddinas wych hon ger y traeth, gan ddefnyddio'n profiad, ein cyfalaf a'n hadnoddau i gryfhau ei gweledigaeth a chyflwyno mannau byw, gweithio a hamdden rhagorol i helpu mwy o bobl i fyw'n dda."

Bydd cynigion pellach yn y dyfodol hefyd yn cynnwys cyfleoedd i ddatblygu safleoedd allweddol eraill ledled Abertawe.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2021