Canmoliaeth o bob rhan o'r DU ar gyfer partner datblygu a ffefrir y cyngor
Mae cwmni arobryn a benodwyd i arwain gwaith gwerth £750m i ailddatblygu sawl safle yn Abertawe wedi'i ddisgrifio fel un sy'n gyfystyr â llwyddiant Manceinion.
Mae Urban Splash bellach wedi'i benodi gan Gyngor Abertawe fel ei bartner datblygu a ffefrir ar gyfer nifer o safleoedd yn y ddinas, gan gynnwys y Ganolfan Ddinesig, Gogledd Abertawe Ganolog ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant a llain o dir ar hyd glan yr afon yn St Thomas.
Mae'r cwmni wedi datblygu dros 60 o brosiectau adfywio ledled y DU yn y 25 mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys sawl un ym Manceinion. Mae'r rhain yn cynnwys adfywio rhan New Islington o'r ddinas yn un o'r mannau gorau i fyw yn y DU, yn ôl The Sunday Times. Mae'r ardal bellach yn cynnwys cartrefi a mannau gwaith newydd, marina, siopau a gweithgareddau eraill.
Meddai Andy Burnham, Maer Manceinion Fwyaf, "Mae Urban Splash yn gyfystyr â llwyddiant Manceinion. Rwy'n gobeithio y bydd ein stori'n datblygu ymhellach ac rwy'n sicr y bydd Urban Splash yn parhau i'n helpu i wneud y ddinas hon yn fwy rhagorol fyth".
Wrth siarad am Urban Splash, meddai'r Cyng. Suzanne Richards, Aelod Gweithredol Cyngor Dinas Manceinion dros Dai ac Adfywio, "Mae eu dull o adfywio wedi gosod glasbrint ar gyfer adfywio dinesig ac wedi gadael ei farc gyda datblygiadau preswyl trawiadol o fri rhyngwladol. Dylid ystyried New Islington yn arbennig fel stori lwyddiant wirioneddol o ran adfywio, lle trawsffurfiwyd ardal ymylol o ganol y ddinas yn un o'r mannau mwyaf cyffrous yn y wlad i fyw a gweithio.
Er mwyn cael ei ariannu'n sylweddol gan y sector preifat, roedd cynigion cynnar Urban Splash ar gyfer Abertawe'n cynnwys ardal y glannau defnydd cymysg ar safle'r Ganolfan Ddinesig, wedi'i hangori gan y traeth. Cynigir cartrefi newydd a ffocws hamdden a lletygarwch cryf hefyd, ynghyd â digonedd o wyrddni, rhodfa newydd i'r traeth, cymysgedd o ddefnyddiau parhaol a thymhorol a digwyddiadau i greu cyrchfan pob tymor i ymwelwyr.
Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud nawr ar y cynigion cynnar ar gyfer pob safle ac eraill yn Abertawe cyn rhoi digon o gyfleoedd i bobl leol roi eu hadborth a helpu i lywio'r cynlluniau.
Mae cynlluniau eraill a ddatblygwyd gan Urban Splash yn cynnwys prosiect Royal William Yard yn Plymouth, lle trawsnewidiodd y cwmni gasgliad o adeiladau rhestredig Gradd I a II ger y glannau'n fflatiau, yn weithleoedd, yn orielau, yn fariau, yn fwytai ac yn farchnadoedd gyda digwyddiadau ac arddangosfeydd diwylliannol.
Mae'r cwmni hefyd yn ailddatblygu Parc Hill sef ardal rhestredig Gradd II yn Sheffield yn ardal ddiwylliannol defnydd cymysg gyda channoedd o gartrefi a gweithleoedd - y mae llawer ohonynt wedi'u gorffen ac wedi'u llenwi.
Meddai'r Cyng. Terry Fox, Arweinydd Cyngor Sheffield Council, "Mae Park Hill yn un o ardaloedd mwyaf eiconig ac adnabyddus Sheffield, sydd â chyfoeth o hanes lleol, ac sy'n adrodd straeon am orffennol Sheffield wrth letya addewid ei dyfodol. Chwedeg o flynyddoedd ar ôl iddi gael ei hadeiladu, mae'r ardal unwaith eto'n gymuned ffyniannus a bywiog ond bellach mae iddi fywiogrwydd ychwanegol o ganlyniad i ddigwyddiadau diwylliannol rheolaidd, caffi cyfoes sy'n edrych dros y ddinas a busnesau annibynnol. Mae hefyd yn gartref i S1 Artspace sy'n arddangos llu o ddoniau ac sy'n denu ymwelwyr o bobman."
Penodwyd Urban Splash gan Gyngor Abertawe yn dilyn proses chwilio helaeth am bartner datblygu a ffefrir fel rhan o fenter Adfywio Abertawe.
Cynigir swyddfeydd, fflatiau a lleoedd gwaith a rennir newydd ar gyfer preswylwyr yng Ngogledd Abertawe Ganolog yn ogystal â lle ar gyfer busnesau creadigol bach.
Cynigir gwaith adfywio a arweinir gan breswylwyr ar y safle yn St Thomas, sy'n cynnwys cartrefi i deuluoedd, fflatiau, mannau cyhoeddus newydd a llwybr terasog newydd ger yr afon a fydd yn darparu mynediad uniongyrchol i'r afon am y tro cyntaf mewn dros 150 o flynyddoedd.
Bydd cynigion pellach yn y dyfodol hefyd yn cynnwys cyfleoedd i ddatblygu safleoedd allweddol eraill ar draws Abertawe.