Trysorau'r llyfrgell i'w harddangos mewn digwyddiad yn y ddinas
Bydd rhai trysorau o gromgelloedd gwasanaeth llyfrgelloedd Cyngor Abertawe yn cael eu harddangos yn gyhoeddus yr wythnos hon.
Byddant yn cynnwys eitemau dethol o gasgliadau hanesyddol y gwasanaeth gan gynnwys llyfrau, mapiau, arteffactau, ffynonellau digidol a ffilm, papurau newydd ac arddangosfeydd.
Bydd cyfle i fwynhau profiad realiti rhithwir fel y'i datgelwyd yn y fenter StoryTrails ddiweddar.
Bydd arddangosfa sy'n seiliedig ar amserlen o'r ddinas a fydd yn cynnwys hanes Llyfrgelloedd Abertawe a'r casgliadau sefydlol, llenyddiaeth, canol y ddinas drwy amser ar ffurf mapiau, y bardd Dylan Thomas a'r band pop enwog Badfinger.
Anogir ymwelwyr i ryngweithio ag eitemau unigol. Mae croeso i blant a bydd gweithgareddau ar eu cyfer.
Bydd digwyddiad mynediad am ddim Llyfrgell Ganolog Abertawe - Straeon o'r Cromgelloedd 2: Abertawe, Lle mewn Amser - yn dathlu'r ardal o'r cyfnod canol oesol hyd at heddiw.
Mae'r digwyddiad, ddydd Gwener yma o 10am i 5pm a ddydd Sadwrn o 10.30am i 3.30pm, yn cael ei gynnal gan wasanaethau Astudiaethau Lleol a Llinell y Llyfrgelloedd Llyfrgelloedd Cyngor Abertawe.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae ein casgliadau arbennig yn cynnwys mwy na llyfrau; mae mapiau hanesyddol, arteffactau'r llyfrgell a cherfluniau - rhywbeth i bawb."