Toglo gwelededd dewislen symudol

Pêl-droed yn dychwelyd i'r Vetch am ddiwrnod cymunedol

Bydd pêl-droed yn dychwelyd i hen safle cae'r Vetch yn Sandfields ar gyfer diwrnod am ddim i'r teulu Abertawe Mwy Diogel ar thema'r Elyrch ddydd Sadwrn. (21 Mai)

Vetch Community Day (Pre-event)

Vetch Community Day (Pre-event)

Cynhelir y digwyddiad rhwng 11am a 3pm a bydd yn cynnwys agoriad swyddogol y cae pêl-droed newydd sy'n rhan o'r ardal gemau aml-ddefnydd newydd sy'n werth £95,000 a osodwyd gan Gyngor Abertawe yn yr un lleoliad a'r hen gae.

Bydd cyn-chwaraewyr enwog yr Elyrch yno a bydd yr Elyrch yn cynnal gweithgareddau pêl-droed difyr i blant yn ystod y diwrnod.

Bydd plac glas sy'n nodi treftadaeth y safle'n cael ei ddadorchuddio gan y Cynghorydd Robert Francis-Davies ac arwr yr Elyrch, Alan Curtis, a bydd llawer o bethau cofiadwy sy'n berthnasol i'r Elyrch yn cael eu harddangos.

Y Vetch oedd cartref tîm pêl-droed Abertawe am dros 100 o flynyddoedd cyn i'r clwb symud i stadiwm Swansea.com yn 2005.

Mae adloniant am ddim ddydd Sadwrn yn cynnwys band pres Byddin yr Iachawdwriaeth, a fydd yn chwarae caneuon ar thema pêl-droed, castell neidio, difyrrwr plant a phaentio wynebau, yn ogystal â stondinau gwybodaeth gan y llu o bartneriaid gwahanol sy'n cefnogi'r diwrnod.

Trefnir y diwrnod gan dîm Diogelwch Cymunedol Cyngor Abertawe a dyma un o 10 o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned a gynllunnir ar gyfer lleoliadau ar draws Abertawe dros y misoedd nesaf.