Toglo gwelededd dewislen symudol

Ciosg yn ailagor gyda phastai enwog ar y fwydlen o hyd

Mae ciosg hynod boblogaidd Parc Victoria Abertawe wedi ailagor ac mae ei bastai briwgig enwog ar y fwydlen o hyd.

Victoria Park Kiosk

Victoria Park Kiosk

Mae'r ciosg a'r caffi bach yn cael eu rhedeg gan Wasanaeth Datblygu Gwaith Cyngor Abertawe mewn partneriaeth â CREST ac mae'n darparu cyfleoedd dan oruchwyliaeth i oedolion ddatblygu eu sgiliau a'u hyder i'w helpu i gael cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth. 

Gyda sgôr hylendid bwyd 5 seren a bwyd cartref am bris rhesymol, mae hefyd yn boblogaidd gyda'r cyhoedd a staff y cyngor yn Neuadd y Ddinas gerllaw.

Yr oriau agor yw 9am tan 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Close Dewis iaith