Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad Nadolig treftadaeth yn cael ei gynnal i hybu busnesau Treforys

Mae pobl ardal hanesyddol yn Abertawe yn mynd i gymryd cam mawr ymlaen - drwy gymryd cam lliwgar yn ôl

Morriston Tabernacle

Morriston Tabernacle

Mae preswylwyr a busnesau Treforys yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn digwyddiad Nadolig ar thema Oes Fictoria.

Gwahoddir siopau i addurno'u ffenestri yn arddull y cyfnod, mae adloniant yn cael ei drefnu ar gyfer Woodfield Street, y brif stryd siopa, a gofynnir i breswylwyr siopa'n lleol.

Mae staff busnesau'n cael eu hannog i wisgo fel y Fictoriaid - unrhyw beth o foneddigion i lowyr a gweithwyr copr.

Trefnir y digwyddiad Nadolig, a gynhelir ddydd Sadwrn 27 Tachwedd, gan Gyngor Abertawe y mae ganddo eisoes brosiect adfywio sy'n canolbwyntio ar y tirnod enwog Fictoraidd, y Tabernacl Treforys.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'r digwyddiad Nadolig Fictoraidd, y diwrnod ar ôl achlysur blynyddol gorymdaith a chynnau goleuadau'r Nadolig yn helpu i dynnu sylw at siopa'n lleol. Bydd yn dod â rhagor o bobl i'r dref - a rhagor o fusnes."

Mae'r cynlluniau'n cynnwys stondinau bwyd a diod, adloniant i blant, cerddoriaeth ac arddangosfeydd treftadaeth.

Bydd y ffyrdd yn aros ar agor wrth i'r gweithgareddau a'r perfformiadau ddigwydd.Bydd Llewod Glantawe yn noddi cystadleuaeth am yr arddangosfeydd ffenestri siop gorau.

Daw cyllid ar gyfer y digwyddiad o Gronfa Fusnes Canol Trefi Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Dylai'r rheini sy'n dymuno cymryd rhan e-bostio Chris Davies - Chris.Davies3@abertawe.gov.uk.

Digwyddiad Nadolig Fictoraidd Treforys 10am-6pm, dydd Sadwrn 27 Tachwedd

Llun: Capel y Tabernacl Treforys - gem Fictoraidd sydd yng nghanol y gymuned