Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd o wirfoddolwyr yn derbyn diolch am eu cyfraniad i Abertawe

Mae Abertawe'n dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr Genedlaethol drwy ddiolch i'r miloedd o bobl sy'n rhoi o'u hamser er mwyn helpu eraill yn y ddinas.

Volunteers at Matthew's House

Volunteers at Matthew's House

Bydd Neuadd y Ddinas yn cael ei goleuo nos Wener 2 Mehefin ac mae pobl yn cael eu hannog i ddiolch i'r rheini sy'n gwirfoddoli a meddwl am wirfoddoli eu hunain a'r buddion niferus y gall gwirfoddoli eu cynnig.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Pugh, "Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn Abertawe'n rhoi eu hamser i gefnogi nifer o agweddau o'n bywydau gan gynnwys ysgolion, clybiau chwaraeon a gweithgareddau, ein parciau a'n mannau agored a'n gwasanaethau iechyd a lles a mwy.

"Rwy'n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt ond eleni hoffwn ddweud diolch arbennig i'r rheini sy'n gwirfoddoli mewn banciau bwyd a chynlluniau eraill sy'n helpu'r rheini sy'n dioddef oherwydd costau byw."

Meddai Amanda Carr, Cyfarwyddwr CGGA (Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe) sy'n cynnal Canolfan Wirfoddoli Abertawe, "Rydym yn gwybod na fyddai nifer o'r gweithgareddau a'r prosiectau sy'n helpu i ddod ag Abertawe'n fyw yn gallu bodoli heb y gwirfoddolwyr sy'n eu cefnogi, felly hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddweud diolch yn fawr i bawb sydd eisoes yn gwirfoddoli ac yn gweithredu yn eu cymunedau - rydym yn meddwl eich bod chi'n anhygoel.

Gallwch gysylltu â thîm Canolfan Wirfoddoli Abertawe drwy ffonio 01792 544000/e-bostio volunteering@scvs.org.uk neu gallwch chwilio drwy'r opsiynau gwirfoddoli lleol yn: swansea.volunteering-wales.net/index-classic?lang=CY