Sioe Awyr Cymru: Trefniadau cau ffyrdd dros dro
Bydd amrywiaeth o drefniadau cau ffyrdd dros dro yn sicrhau y gall degau ar filoedd o bobl fwynhau Sioe Awyr Cymru eleni'n ddiogel.
Disgwylir i'r digwyddiad deuddydd â mynediad am ddim gael ei gynnal ar 6 a 7 Gorffennaf, gyda chyfres o arddangosiadau o safon dros Fae Abertawe.
Er y bydd llawer o bobl yn teithio i'r digwyddiad mewn car, mae trefnwyr y digwyddiad, Cyngor Abertawe'n annog ymwelwyr i gerdded, beicio neu deithio i'r digwyddiad ar y trên neu'r bws gyda phartneriaid teithio'r Sioe Awyr, GWR, First Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.
Bydd trefniadau cau ffyrdd dros dro yn cynnwys rhannau o lwybr ar lan y môr Oystermouth Road a Mumbles Road, nifer o ffyrdd yn Sandfields, a Pantycelyn Road, Townhill. Bydd arwyddion i ddangos dargyfeiriadau.
Ni fydd beicwyr yn gallu cael mynediad i Brom Abertawe, o'r Ganolfan Ddinesig i Sketty Lane, o 7am ar 4 Gorffennaf i 11pm ar 9 Gorffennaf.
Cynhelir mynediad brys a bydd mynediad i'r Marina, Ysbyty Singleton a Phrifysgol Abertawe o hyd. Mae'r busnesau a'r sefydliadau hynny y bydd y trefniadau'n effeithio arnynt yn uniongyrchol yn cael eu hysbysu.
Mae trefniadau parcio a mynediad i wylwyr ar waith, gyda chyfleusterau fel parcio a theithio ar gael.
Meddai Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol y Cyngor, Tracey McNulty, "Mae diogelwch yn hollbwysig a diolchwn i bobl leol am eu dealltwriaeth. Mae'n bwysig i bobl gynllunio ymlaen llaw a dod i arfer â'r newidiadau."
Gall pobl a chanddynt bryderon am ddefnyddio'r ffyrdd neu broblemau sy'n ymwneud â'r digwyddiad dros ddeuddydd y Sioe Awyr ffonio 01792 635428 o 10am i 6.00pm. Ymholiadau eraill: E-bostiwch special.events@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 635428 (oriau swyddfa arferol).
Mwy:
- Sioe Awyr Cymru, gan gynnwys newidiadau i'r ffordd
- Cadw lle parcio ymlaen llaw
- Rhagor o wybodaeth
- Instagram Sioe Awyr Cymru
Mae'r timau arddangos yn cynnwys: