Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyhoeddiad: Newidiadau dros dro i'r ffyrdd ar gyfer Sioe Awyr Cymru

Cyhoeddwyd amrywiaeth o newidiadau dros dro i'r ffyrdd i sicrhau y gall miloedd o bobl fwynhau Sioe Awyr Cymru eleni'n ddiogel.

Red Arrows

Red Arrows

Disgwylir i'r digwyddiad deuddydd am ddim ddigwydd ar 1 a 2 Gorffennaf, gyda chyfres o arddangosiadau o'r radd flaenaf dros Fae Abertawe.

Mae'r newidiadau dros dro ar gyfer sioe 2023 yr un peth â'r rheini a oedd ar waith ar gyfer y digwyddiad hynod lwyddiannus yr haf diwethaf.

Byddant yn cynnwys ardaloedd glan môr ar hyd Oystermouth Road a Mumbles Road, a nifer o ffyrdd yn ardal Sandfields a Pantycelyn Road, Townhill. Bydd arwyddion i ddangos dargyfeiriadau.

Ni fydd Prom Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a Sketty Lane ar agor i feicwyr rhwng 7am ar 29 Mehefin ac 11pm ar 4 Gorffennaf.

Bydd mynediad i gerbydau argyfwng ar bob adeg a gellir cael mynediad i'r Marina, Ysbyty Singleton a Phrifysgol Abertawe o hyd. Rhoddwyd gwybod i unrhyw fusnesau a sefydliadau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.

Mae diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol ar benwythnos yn y ddinas y disgwylir iddo fod yn brysur. Mae trefniadau ar waith ar gyfer parcio a mynediad i wylwyr, gyda chyfleusterau fel parcio a theithio.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth."

Gall pobl sydd â phryderon ynghylch mynediad neu broblemau sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad dros ddau ddiwrnod y Sioe Awyr ffonio'r llinell gyswllt i breswylwyr a busnesau ar 01792 635428 rhwng 10am a 6.30pm. Ar gyfer ymholiadau eraill: special.events@abertawe.gov.uk - 01792 635428 (oriau swyddfa arferol).

Rhagor:

Sioe Awyr Cymru 2023 - mae newidiadau i'r ffyrdd yn cynnwys y canlynol:

O ganol dydd, ddydd Gwener 30 Mehefin

  • Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau tua'r gorllewin yn unig - o gyffordd West Way i Brynmill Lane. Ni cheir mynediad at ffordd gerbydau Oystermouth Road tua'r dwyrain neu oddi wrthi ar y cyffyrdd â Bond Street, Beach Street a St Helen's Road (y gyffordd sydd agosaf at far a bwyty Thai Bay View) yn ystod y cyfnod hwn.
  • Cynhelir mynediad i'r Marina drwy Dunvant Place.

Yna, o 5am ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf i 5am ddydd Llun 3 Gorffennaf

  • Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau i'r ddau gyfeiriad o gyffordd West Way i Sketty Lane a bydd dargyfeiriadau ar waith ag arwyddion.
  • Cynhelir mynediad i'r Marina drwy Dunvant Place.
  • Bydd mynediad i Argyle Street drwy ddilyn dargyfeiriad byr heibio'r Ganolfan Ddinesig.
  • Bydd Pantycelyn Road ar gau (rhwng Dyfed Avenue a Townhill Road) rhwng 8am a 7pm ddydd Sadwrn a dydd Sul
  • Cynhelir mynediad i Brifysgol Abertawe a Brynmill Lane drwy Sketty Lane

Er diogelwch ac i helpu llif y traffig, sicrheir na fydd cerbydau'n parcio ar rai ffyrdd. Bydd hyn yn golygu cyfyngiadau parcio ar rai ffyrdd. Gofynnir i'r rheini yr effeithir arnynt oherwydd cau ffyrdd i symud eu cerbydau i leoliad arall.

Bydd cyfyngiadau parcio a pharth halio cerbyd ymaith o ganol dydd ar 30 Mehefin i 3 Gorffennaf ar y ffyrdd canlynol:

  • dwy ochr Oystermouth Road/Mumbles Road yn ardal y Sioe Awyr - ewch i www.bit.ly/WA23roads am ragor o fanylion ac i weld map o ardal y Sioe Awyr;
  • dwy ochr Bryn Road.

Ni fydd Prom Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a Sketty Lane ar agor i feicwyr rhwng 7am ar 29 Mehefin i 11pm ar 4 Gorffennaf.

Llun: Y Red Arrows - atyniad mawr ar gyfer Sioe Awyr Cymru 2023.