Toglo gwelededd dewislen symudol

Glannau Abertawe yn dod i'r amlwg yn ystod Cyfres Para Treiathlon y Byd

Bydd Glannau SA1 Abertawe unwaith eto'n dod i'r amlwg wrth i baradreiathletwyr gorau'r byd rasio yn Abertawe'r haf hwn pan fydd y Gyfres Para Treiathlon y Byd yn dychwelyd i'r ddinas ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf 2023.

World Triathlon Para Series Swansea 2022

World Triathlon Para Series Swansea 2022

Y llynedd defnyddiwyd ardal y Glannau ar gyfer dechrau a diwedd y ras, yn ogystal â'r cyfnod trawsnewid, ond pan fydd y digwyddiad yn dychwelyd ym mis Gorffennaf bydd yr ardal yn bwysicach fyth. Bydd athletwyr yn rasio drwy'r ardal ar ôl pob lap rhedeg neu ar feic, a dyma fydd y lle i fynd i brofi adloniant ar gyfer y teulu cyfan ym mhentref y digwyddiad.

Roedd miloedd o wylwyr ar hyd y llwybr y llynedd ar gyfer y digwyddiad agoriadol - y cyntaf o ymroddiad tair blynedd i gynnal y digwyddiad paradreiathlon rhyngwladol yn Ne Cymru cyn y Gemau Paralympaidd ym Mharis y flwyddyn nesaf.

Bydd y llwybr yn debyg i'r llynedd gyda dechrau'r digwyddiad a'r rhan nofio yn digwydd yn Noc Tywysog Cymru, a'r ardal gorffen a thrawsnewid yn SA1 y Glannau ger campws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Y gwahaniaeth mwyaf fydd y lapiau rhedeg ac ar feic, a fydd yn mynd heibio'r ardal dechrau a gorffen ar ôl pob lap, gan fwyafu'r cyfle i wylwyr ymuno yn y cyffro yn ogystal â mwynhau'r adloniant a fydd ar gael ym mhentref y digwyddiad.

Ar ôl gwneud pum lap ar y beic, byddant yn dechrau'r cwrs rhedeg 5km, lle bydd y rhedwyr yn rhedeg ar hyd Kings Road, a fydd yn golygu bod yr athletwyr unwaith eto'n mynd heibio pentref y digwyddiad a'r ardal orffen fel rhan o bob lap

Ar ôl gwneud pum lap ar y beic, byddant yn dechrau'r cwrs rhedeg 5km, lle bydd y rhedwyr yn rhedeg ar hyd Kings Road teirgwaith, a fydd yn golygu bod yr athletwyr unwaith eto'n mynd heibio pentref y digwyddiad a'r ardal orffen fel rhan o bob lap.

Meddai Andy Salmon, Prif Swyddog Gweithredol Ffederasiwn Treiathalon Prydain, "Roedd digwyddiad agoriadol y llynedd yn llwyddiant enfawr ond, fel unrhyw ddigwyddiad cyntaf, roedd pethau i'w dysgu ac mae'r tîm wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn adeiladu ar lwyddiant y llynedd a'i wneud yn ddigwyddiad hyd yn oed yn well i bawb sy'n rhan ohono.

"Rydym am sicrhau bod athletwyr a gwylwyr yn cael y profiad gorau posib a gwnaed y newidiadau i'r llwybr mewn ymateb i adborth gan yr athletwyr a'r gwylwyr ynghyd ag ymgysylltu â chynrychiolwyr o'r ddinas.

"Bydd y llwybr newydd hwn yn mwyafu'r cyfle i wylwyr weld y rasio, ynghyd â mwynhau a phrofi popeth arall y mae gan Abertawe a'r digwyddiad i'w gynnig, gan greu'r hyn sy'n addo bod yn ddiwrnod gwych arall o nofio, beicio a rhedeg."

Ochr yn ochr â rasys y goreuon, bydd glannau Bae Abertawe unwaith eto'n darparu cefndir syfrdanol i Gyfres Super Paratri Treiathlon Prydain, sy'n cynnwys y genhedlaeth newydd o dalent paradreiathlon Prydain, yn ogystal â chyfleoedd cyfranogi nofio, beicio a rhedeg i unigolion ag anabledd neu amhariad.

Bydd Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe unwaith eto'n arwain yr ŵyl Parachwaraeon Chwaraeon Anabledd Cymru wythnos o hyd, a fydd yn darparu cyfleoedd i wylio a rhoi cynnig ar amrywiaeth o barachwaraeon drwy gydol yr wythnos.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor, fod "digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd y llynedd yn llwyddiant mawr, ac ynghyd ag IRONMAN 70.3, denodd filoedd o ymwelwyr i Abertawe a helpodd i gynhyrchu tua £2.5m ar gyfer yr economi leol.

Ynghyd â'r Ŵyl Parachwaraeon wythnos o hyd, rydym yn edrych ymlaen at wythnos unigryw o gyfleoedd chwaraeon ar gyfer amrywiaeth eang o alluoedd, hyd at y lefel uchaf, ac rydym yn falch iawn o fod yn croesawu'r tri digwyddiad yn ôl ar gyfer blwyddyn arall eleni. Mae'n wych gallu cyd-weithio â chynifer o sefydliadau gwahanol er mwyn gallu cynnal wythnos chwaraeon mor wych ac amrywiol yn Abertawe.

"Roedd yn llwyddiant mawr i athletwyr, cefnogwyr, busnesau lleol a phreswylwyr y llynedd. Gwelwyd pencampwyr Olympaidd, Paralympaidd, y Byd a'r Gymanwlad i gyd yn rasio yn Abertawe. Rydym yn gyffrous iawn i gefnogi holl gyfranogwyr eleni."

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe, llwybrau'r ras a'r ffyrdd yr effeithir arnynt ar dudalen y digwyddiad yma.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Mai 2023