Croeso i gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd yn y Plasty
Cynhaliwyd cyfarfod unigryw gyda rhai o'r cyn-filwyr byw olaf a wasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd yn y Plasty yn Abertawe.
Daeth naw cyn-filwr o'r ardal ag oedran cyfunol o dros 900 oed i'r te anffurfiol gyda'u teuluoedd a'u gofalwyr.
Roedd y rhain yn cynnwys Archie Thomas a Neville Bowen a wasanaethodd yn y Llynges Frenhinol, David Jones o'r Llynges Fasnachol, Kath Morris a oedd wedi'i lleoli yn Bletchley Park, Ron Horsey a Richard Pelzer o'r Peirianwyr Brenhinol, Frederick Jeacock a fu'n hedfan gyda'r RAF, Idwal Davies o Farchfilwyr Brenhinol y Frenhines a Ray Jones o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Gyngor Abertawe a chroesawyd y cyn-filwyr i'r Plasty gan Arglwydd Faer Abertawe, Paxton Hood-Williams, Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldebau, Elliott King, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog y cyngor, Wendy Lewis, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Louise Fleet, Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Melanie James a'r Cyrnol James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Roedd yn fraint i mi gwrdd â'r naw person arbennig hyn, a oedd rhwng 98 a 105 oed, er mwyn eu diolch am bopeth y maent wedi'i wneud dros ein gwlad ac i glywed eu straeon anghredadwy o ddewrder a gwasanaeth dros fy hun."