Toglo gwelededd dewislen symudol

Poteli diodydd ailddefnyddiadwy i ddisgyblion ysgol yn y ddinas

Mae miloedd o ddisgyblion ysgol yn Abertawe'n derbyn poteli dŵr a fydd yn helpu i sicrhau bod digwyddiad chwaraeon mawr yn y ddinas yn cael ei gofio am oes.

School pupils with IRONMAN water bottles

School pupils with IRONMAN water bottles

Mae dros 3,000 o boteli diodydd ailddefnyddiadwy wedi cael eu hanfon i ysgolion am ddim gan drefnwyr IRONMAN 70.3 Abertawe.

Roeddent ar gael i athletwyr yn unig yn wreiddiol, wrth y gorsafoedd bwyd ar hyd llwybr y gystadleuaeth ar 16 Gorffennaf, ond ni chawsant eu defnyddio. Nawr maent yn cael eu glanhau'n arbenigol a byddant yn ddefnyddiol i'r myfyrwyr.

Cynhaliwyd IRONMAN 70.3 gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'r ffaith bod y poteli diodydd hyn yn cael eu hailddefnyddio a'u rhoi i ddisgyblion yn rhan o amcanion cynaladwyedd y digwyddiad."

MeddaiRichard Cannon, pennaeth cynorthwyol a phennaeth cyfnod allweddol pedwar yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas, "Caiff y poteli eu rhoi i ddisgyblion sy'n rhan o weithgareddau a chlybiau chwaraeon yn ystod a thu allan i oriau ysgol.  Rydym yn ysgol gymunedol yn llawn ystyr y gair ac mae chwaraeon yn rhan allweddol o'n llwyddiant a'r gwaith rydym yn ei wneud."

Meddai Rebecca Sutherland, Cyfarwyddwr ras IRONMAN 70.3 Abertawe, "Rydym yn ymdrechu i fod mor wyrdd â phosib. Mae ailddefnyddio'r poteli'n gam gwych tuag at fod yn fwy cynaliadwy a lleihau ein gwastraff."

Llun: Disgyblion Ysgol Gymunedol Dylan Thomas Abertawe gyda photeli dŵr IRONMAN.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Awst 2023