Toglo gwelededd dewislen symudol

Pâr a faethodd 1,000 o bobl ifanc yn ymddeol ar ôl 39 mlynedd

Mae pâr sydd wedi bod yn ofalwyr maeth ers bron 40 mlynedd yn ymddeol ar ôl darparu cartref cariadus a chefnogol i ryw 1,000 o bobl ifanc yn Abertawe yn ystod eu gyrfa.

Foster carers Wendy and Steve Taylor

Foster carers Wendy and Steve Taylor

Eleni bydd y Nadolig ychydig yn dawelach na'r arfer i Wendy a Steve Taylor MBE.

Yn ystod y cyfnod eithriadol hwn, mae'r gofalwyr Maethu Cymru yn Abertawe, nid yn unig wedi darparu cartref, ond hefyd safon ardderchog o ofal i rai o bobl ifanc fwyaf bregus y ddinas.

Dechreuodd y pâr, o Winch Wen, faethu ar ôl geni eu merch, Becky, yn 1984. Roedd Steve erioed wedi dymuno bod yn rhan o deulu mwy o faint a doedden nhw ddim am i'w merch dyfu i fyny yn unig blentyn.

Meddai Wendy: "Doedden ni ddim yn gallu cael rhagor o blant ond doedden ni ddim am iddi fod yn unig blentyn, er ei bod hi'n cellwair erbyn hyn ei bod hi wedi cael ei magu gyda hanner Abertawe."

Wendy & Steve Taylor with some of the people they have fostered over the years

Dros bron pedwar degawd, mae'r pâr wedi rhagori ac arbenigo mewn gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau. Roedd llawer o'r rheini, yn enwedig ar ddechrau eu gyrfa faethu, yn droseddwyr ieuenctid y gwnaethon nhw eu helpu a'u cefnogi i adsefydlu.

Maen nhw'n cyfaddef eu hunain, iddyn nhw dreulio llawer o amser mewn gorsafoedd heddlu, gan ofyn am fynd i mewn i'r celloedd i siarad â'r person ifanc dan sylw.

Mae Wendy a Steve wedi eiriol yn barhaus dros bobl ifanc yn eu harddegau a phlant sydd ar remand, gan eu cefnogi a'u helpu i gael llais.

Meddai Steve: "Rydyn ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig i bobl ifanc deimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi, bod pobl yn eu clywed a'u bod nhw'n teimlo'n ddiogel."

Ychwanegodd Wendy: "Mae llawer wedi dod o gefndir lle nad yw addysg yn cael ei hystyried yn bwysig felly gall mynd i'r ysgol a'r coleg fod yn frawychus iawn iddyn nhw. Ond weithiau, pan gân nhw gyfle a llaw arweiniol, gallan nhw eich synnu. Rydyn ni wedi bod mor falch o weld rhai o'n plant yn mynd ymlaen i'r coleg ac yn gwneud bywyd da iddyn nhw eu hunain."

Meddai teulu'r Tayloriaid eu bod nhw wedi mwynhau rheoli ymddygiad heriol, cefnogi datblygiad sgiliau byw'n annibynnol, a chefnogi'r bobl ifanc yn eu gofal i symud ymlaen i annibyniaeth. Maen nhw wedi ymdrechu i arfogi'r bobl ifanc am oes ar ôl iddyn nhw adael.

Dyma, medden nhw, yw eu cyflawniad mwyaf yn ofalwyr maeth.

Meddai Steve: "Helpu pobl ifanc i symud ymlaen i annibyniaeth yn llwyddiannus, neu yn ôl adref at eu rhieni, yw un o'r pethau pwysicaf rydyn ni wedi'u cyflawni. Mae gwybod ein bod ni wedi chwarae rhan wrth ganiatáu iddyn nhw aeddfedu a symud ymlaen i fod yn oedolion, mewn byd sy'n gallu creu arswyd, yn rhoi boddhad mawr. Hyd y gallwn ni, rydyn ni'n parhau i gefnogi'r bobl ifanc ar ôl iddyn nhw ein gadael fel eu bod yn gwybod ein bod ni'n dal i fod yno ar eu cyfer.

Meddai Wendy: "Mae pob plentyn yn wahanol ond mae wynebu'r byd yn oedolyn yn gallu creu straen mawr ac mae'n sioc iddyn nhw. Mae deall y cysyniad o filiau yn anodd felly mae Steve a minnau yn ymdrechu'n galed i'w haddysgu a'u paratoi.

Yn 2015, derbyniodd y pâr MBE am eu gwaith yn helpu pobl ifanc, sy'n un o'u hoff atgofion am faethu.

Meddai Steve: "Mae derbyn ein MBE gan y Frenhines yn 2015 yn bendant yno yn un o'n hatgofion gorau o faethu. Un arall o'n hoff atgofion yw pan oedd ein merch yn forwyn briodas ym mhriodas un o'n meibion maeth."

Ond pan ddechreuon nhw ar yr hyfforddiant i ddod yn ofalwyr maeth, roedd eu bryd ar faethu babanod mewn gwirionedd. Dim ond ar ôl siarad â gofalwr maeth arall y sylweddolon nhw'n fuan y byddai gweld yn symud babi ymlaen i'w fabwysiadu neu'n dychwelyd adref yn rhy anodd iddyn nhw.

Un diwrnod, roedd Steve yn siarad â chydweithiwr a oedd yn rhan o gynllun lleoliad teulu a oedd yn arbenigo mewn maethu pobl ifanc yn eu harddegau. Penderfynon nhw y byddai hyn yn gweddu'n well iddyn nhw, ac ys dywed yr hen ddywediad, mae'r gweddill yn hanes.

Meddai Steve: "Roedden ni'n teimlo nad oedden ni'n gallu cysylltu â phobl ifanc yn eu harddegau - roedden ni'n anghywir iawn - felly fe aethon ni ar y Cynllun Lleoliadau Teuluol; yr ail bâr ar y cynllun."

Yn eu gyrfa hir yn ofalwyr maeth, gan arbenigo mewn gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau, maen nhw wedi dangos agwedd gadarnhaol tuag at ddatblygu perthnasoedd â theuluoedd biolegol ac maen nhw hefyd wedi adsefydlu plant yn llwyddiannus yn ôl adref yn eu teuluoedd biolegol.

Mae Wendy a Steve wedi cael cymaint o effaith ar fywydau llawer o bobl ifanc fel bod llawer ohonyn nhw yn parhau i gadw mewn cysylltiad â nhw.

Meddai Wendy: "Rydyn ni'n dal i gadw mewn cysylltiad â llawer o'r bobl ifanc yr oedden ni'n gofalu amdanyn nhw ac mae croeso i bob un ohonyn nhw ymweld. Dydych chi byth yn gwybod pwy fydd yn ymddangos adeg y Nadolig a dyna braf yw hynny. Mae un o'n hen blant maeth yn ymweld â ni'n rheolaidd. Mae hi'n 54 mlwydd oed erbyn hyn. Pe bai pawb rydyn ni wedi eu maethu'n dod i ymweld â ni, fyddem ni ddim yn gallu fforddio'r holl de a'r coffi."

Dros y blynyddoedd, mae Wendy yn arbennig wedi bod yn fentor i ofalwyr maeth newydd, gan ymgymryd â gwaith a chynnig cyngor a gwybodaeth amhrisiadwy am eu profiadau.

Ond beth sydd wedi eu cadw nhw i fynd am bron 40 mlynedd?

Meddai Steve: "Dyw hi ddim yn ymddangos fel 40 mlynedd o gwbl. Rydyn ni wedi mwynhau maethu a byddem ni'n gwneud y cyfan eto. Mae sylweddoli y gallem ni helpu i newid bywyd person ifanc er gwell, a chael atgofion hapus wedi bod yn anhygoel ac yn werth chweil. Mae maethu hefyd wedi dod ag atgofion trist, ond allwch chi ddim cael y naill heb y llall.

"Rydyn ni wedi mwynhau bod yn rhan o fywydau cymaint o bobl ifanc a'u helpu i baratoi ar gyfer bod yn oedolion. A phan ddaw'r bobl ifanc i ymweld â ni flynyddoedd yn ddiweddarach gyda'u plant eu hunain, rydyn ni'n teimlo bod y cyfan wedi bod yn werth chweil."

Ychwanegodd Wendy: "Ar y cyfan, mae maethu wedi bod yn swydd fuddiol dros ben. Ar adegau, mae wedi bod yn anodd gan eich bod chi'n wynebu problemau pobl eraill ac yn ceisio eu rheoli. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o blant, does ganddyn nhw ddim mam na dad y gallan nhw droi atyn nhw am help. Maen nhw wedi bod trwy lawer yn eu bywydau eisoes. Dyna pam roeddem ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r bobl ifanc yn ein gofal."

Ydyn nhw'n meddwl eu bod nhw wedi dysgu unrhyw beth o faethu?

Meddai Wendy: "Rwy'n credu bod maethu wedi dysgu llawer i ni, yn bendant rydyn ni wedi bod ar linell ddysgu enfawr. Mae fy hyder wedi cynyddu ac rwy wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd. Pan ddechreuais i faethu plant yn eu harddegau am y tro cyntaf, roeddwn i'n arfer teimlo dan fygythiad gan eu teuluoedd ond mae hynny'n newid yn fuan ac fe wnes i fwynhau gweithio gyda nhw."

Er eu bod nhw bellach wedi ymddeol, byddan nhw'n parhau i annog pobl i ystyried maethu, yn enwedig i helpu pobl yn eu harddegau.

Meddai Wendy: "Rwy'n gwybod bod angen rhagor o ofalwyr maeth yn gyffredinol, ond mae mwy o angen i bobl ofalu am bobl yn eu harddegau."

Meddai Steve: "Byddem ni'n dweud wrth unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu i roi cynnig arni, ond hefyd rhoi amser iddo. Roedd ein mab maeth cyntaf yn anodd iawn nes i ni gael dau berson ifanc arall gyda ni. Roedd yn syndod gweld sut y gallai deinameg wahanol newid ymddygiad person ifanc. Hefyd, bydd y gefnogaeth y cewch chi gan Maethu Cymru Abertawe, a gofalwyr maeth eraill, yn helpu pan gewch chi gyfnodau heriol.

Meddai Wendy: "Rwy'n gwybod y byddaf yn gweld eisiau'r cyfan yn fawr, mae'n beth gwych cael derbyn plant. Rydyn ni wedi mwynhau maethu. Mae wedi bod yn hyfryd cael pawb gyda ni - teimlad o berthyn am wn i."

Ddydd Llun cafodd y Tayloriaid wahoddiad i Neuadd y Ddinas gan Arglwydd Faer Abertawe er mwyn diolch iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi'i wneud i bobl ifanc yn Abertawe.

Meddai'r Cynghorydd Louise Gibbard, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Gofal: "Mae'r ymrwymiad y mae Wendy a Steve wedi'i ddangos i fywydau cymaint o bobl ifanc yn Abertawe yn wirioneddol ryfeddol. Mae neilltuo bron 40 mlynedd yn gofalu am blant sy'n agored i niwed a rhoi llais, diogelwch a chyfleoedd iddyn nhw ar gyfer dyfodol mwy disglair yn ysbrydoledig.

"Yn ystod eu hamser yn ofalwyr maeth, maen nhw wedi darparu cariad a anogaeth ddiamod, ac rydyn ni'n falch iawn o gael dathlu'r cyflawniad anhygoel hwn gyda nhw. Rwy'n gobeithio y gallan nhw gymryd ennyd i fyfyrio ar y cyfraniad y maen nhw wedi'i wneud a'r gwahaniaeth y maen nhw wedi'i wneud i fywydau pobl ifanc yn Abertawe.

"Rydyn ni'n yn ddiolchgar iawn am eu hymroddiad. Mae 39 mlynedd yn amser hir a does dim llawer o bobl a fydd wedi cyrraedd y garreg filltir anhygoel honno. Rwy'n siŵr eu bod nhw wedi profi llawer o uchafbwyntiau a siomedigaethau yn ystod eu hamser yn maethu ond does dim dwywaith nad ydyn nhw wedi cyflawni llawer o lwyddiant wrth gefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed yn Abertawe.

"Hoffem ni ddiolch i Wendy a Steve am bopeth maen nhw wedi'i wneud a phob dymuniad da iddyn nhw ar eu hymddeoliad haeddiannol. Rydyn ni'n ffodus iawn o gael pobl mor ysbrydoledig yn maethu gyda Chyngor Abertawe.

"Mae angen rhagor o bobl arnom sy'n barod i ymgymryd â'r her werth chweil hon. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn maethu, cysylltwch â Thîm Maethu Cymru Abertawe am sgwrs anffurfiol."

I ddysgu rhagor am ddod yn ofalwr maeth yn Abertawe, ewch i: www.swansea.fosterwales.gov.wales neu ffoniwch 0300 555 0111.

Close Dewis iaith