Ardal chwarae newydd yn agor ger glan y môr
Mae ardal chwarae newydd sbon gyda chyfarpar chwarae sy'n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn wedi agor ger glan môr Abertawe.
Y prosiect hwn sy'n werth £56,000 yn West Cross yw'r ardal chwarae newydd neu adnewyddedig diweddaraf i'w chwblhau fel rhan o fuddsoddiad gwerth £5m mewn chwarae gan Gyngor Abertawe.
Mae cynllun West Cross, a ariannwyd gan Gyngor Abertawe, aelodau ward o'u lwfans a Chyngor Cymuned y Mwmbwls, gyferbyn â'r siopau ar Alderwood Road.
Aeth Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, i'r agoriad yr wythnos hon.
Meddai, "Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cwblhau gwaith ar fwy na deugain o ardaloedd chwarae newydd neu adnewyddedig ac rwy'n falch iawn o weld West Cross yn cael ei ychwanegu at y rhestr hon.
"Rwy'n arbennig o falch ei bod yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae'r adborth rydym wedi'i gael eisoes yn gadarnhaol iawn."
Mae'r cyngor wedi cytuno ar gynlluniau i wella saith lleoliad arall, y disgwylir i'r gwaith ddechrau yno dros yr wythnosau nesaf. Ar ben hynny mae cynlluniau yn yr arfaeth ar gyfer 18 o ardaloedd chwarae eraill y cyngor mewn parciau ar draws Abertawe.
I gael gwybod mwy am fuddsoddiad mwyaf erioed y cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i:https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewyd